Wici Cymraeg Doctor Who
Advertisement
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

The Sontaran Ordeal (Cy: Cosb y Sontarans) oedd pedwaredd stori y gyfres Classic Doctors, New Monsters: Volume One, blodeugerdd sain cynhyrchodd Big Finish Productions. Fe gaeth y stori ei hysgrifennu gan Andrew Smith, a chynhwysodd Pau McGann fel yr Wythfed Doctor.

Crynodeb y cyhoeddwr[]

Mae eiliad o'r Rhyfel Amser yn dod â chanrifoedd o frwydro i'r blaned Drakkis, ac mae' Wythfed Doctor yna fel tyst i'r canlyniadau erchyll.

Mae llynges Sontaran, yn ysu eisiau ymuno â'r brwydr enfawr, yn dilyn er mwyn manteisio ar yr alldaliad. Ond pyd mae Cadfridog Jask yn glanio ar arwyneb y blaned anghyfaneddol, mae rhywbeth o'i le nad oes modd gweld wrth gyrraedd yn gyntaf.

Yn fuan, mae pencampwr annhebygol yn ymuno â'r Arglwydd Amser er mwyn ymladd am ddyfodol ei phlaned, a gyda'i gilydd rhaid iddynt gwynebu Cosb y Sontarans...

Plot[]

I'w hychwanegu.

Cast[]

  • Y Doctor - Paul McGann
  • Sarana Teel - Josette Simon
  • Jask - Dan Starkey
  • General Stenk/Flitch - Christopher Ryan
  • Tag Menkin/Is-swyddog Stipe - Sean Connolly

Cyfeiriadau[]

  • Mae'r Doctor yn ystyried y Rhyfel Mawr Olaf Amser fel peth creulon a disynnwyr.
  • Mae'r Doctor yn honni bod yn ymwelydd.
  • Yn ôl y Doctor, hyfforddodd ymladd gyda chleddyfau ochr yn ochr â Musashi.
  • Mae pob Sontaran yn ymwybodol o'r Doctor a'r TARDIS.
  • Mae Sarana wedi cael dau fab a gafodd ei dwyn yng nghanol brwydr.
  • Cafodd sector gofod Drakkis ei heffeithio gan fflwcs amserol, lle mae effeithiau'r Rhyfel Amser yn cymysgu gydag amser real. Nododd cyfrifiaduron brwydro'r Sontarans taw planed heddychlon oedd Drakkis yn gyfan gwbl trwy gydol ei hamser, cyn newidodd hanes. Wnaeth planedau eraill dioddef yn yr un modd, gyda'r effeithiau yn anghildroadwy.
  • Mae'r Doctor yn dynodi ei fod yn teimlo fel mae wedi'i ddadwisgo heb ei sgriwdrefar sonig.
  • Adnabuwyd Jask unwaith fel "Jask lladdwr ei elynion".
  • Nid oes gan Drakkis unrhyw gwerth strategaethol i'r Sontarans.
  • Cadwyd llosgyddion ar longau ofod y Sontarans er mwyn gwaredu cyrff y milwyr marw.

Nodiadau[]

  • Mae'r stori hon yn arbennig am fod yr unig stori yn y gyfres Classic Doctors, New Monsters i gynnwys gelyn wrth gyfnod yr Hen Gyfres, gan ymddangosodd y Sontarans yn gyntaf yn ystod deiliadaeth y Trydydd Doctor. Er, mae hyn wedi'i gyfiawnhau wrth gael y swp hyn o Sontarans yn swp clôn o'r Rhyfel Amser, elfen o'r Gyfres Newydd.
  • Rhyddhawyd fersiwn arbennig finyl mewn storfeydd Asda detholus ar 25 Medi 2020.

Cysylltiadau[]

  • Wrth ddarganfod y Doctor a Sarana, mae Jask yn defnyddio "Sontar, ha!", rhyfel-gri'r Sontarans. (TV: The Sontaran Stratagem)
  • Mae'r Doctor yn cario cleddyf, ond mae'n torri cyn mae modd iddo'i ddefnyddio. (COMIG: The Glorious Dead)
  • Mae Sarana yn analluogi Jask trwy fwrw ei fent probig. (TV: The Time Warrior, ayyb)
  • Cyfeiria'r Doctor tuag at godennau telegludio Sontaran. (TV: The Sontaran Stratagem)
  • O achos y Rhyfel Mawr Olaf Amser, rhaid i'r Doctor cuddio'i etifeddiaeth Arglwydd Amser rhag eraill. (TV: The Night of the Doctor)
  • Mae'r Sontarans yn ceisio cymryd rhan yn y Rhyfel Amser. (TV: The Sontaran Stratagem, SAIN: The Eternity Cage)
  • Mae Jask yn cyfeirio at y Rhyfel Rutan-Sontaran. (TV: The Time Warrior, ayyb)
  • Noda Jask bod y Doctor wedi atal sawl goresgyniad gan Sontarans. (TV: The Sontaran Experiment, The Invasion of Time; SAIN: The Sontarans, The Eternal Battle, King of Sontar)
  • Tuag at ddiwedd ei ddegfed ymgorfforiad, achubodd y Doctor ei cyn-gymdeithion Mickey Smith a Martha Jones rhag Sontaran arall o'r enw Jask. (TV: The End of Time)

Dolenni allanol[]

Advertisement