Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

The Space Museum oedd seithfed stori Hen Gyfres 2 Doctor Who. Dyma'r stori gyntaf i delio gyda dimensiynnau amser ynhyd y gofod a'r cyntaf i gynnwys linell amser eiledol. Tra gyflwynodd y stori sawl elfen ffuglen gwyddonol gwreiddiol, cadwodd y stori amryw o elfennau a oedd yn tebygol o'r gyfnod.

Cyflwynodd cliffhanger y stori rhagolwg o drydydd ymddangosiad y Daleks ar gyfer cefnogwyr y sioe. Disgwyliwyd ymlaen at ymddangosiad nesaf y Daleks yn awyddus, a chrybwyllwyd y stori trwy ymddangosiad plisgyn Dalek yn rhan un. Dyma ymddangosiad olaf dyluniad gwreiddiol y Daleks nes The Magician's Apprentice yn 2015. Nid oes gan y Daleks yn "The Final Phase" y band metel yn eu rhagflaenydd.

Crynodeb[]

Mae'r TARDIS yn neidio trac amser ac yn cyrraedd y blaned Xeros. Yno, maent yn dod o hyd i'w dyfodol eu hun lle maent yn cael eu harddangos mewn amgueddfa fel arwyddfaen o gorchfygaethau galaethol y goresgynwyr Morok sydd eisioes yn rheoli'r blaned. Pan mae amser yn newid nôl i arfer, maent yn sylweddoli mae rhaid iddyn gwneud popeth er mwyn osgoi'r dyfodol posib yma.

Mae Vicki yn helpu'r Xerons brodorol cael arfau a gwrthryfela yn erbyn y Moroks. Mae'r gwrthryfel yn llwyddo ac mae'r teithwyr yn gadael yn hyderus bod y dyfodol wedi newid.

Plot[]

The Space Museum (1)[]

I'w hychwanegu.

The Dimensions of Time (2)[]

I'w hychwanegu.

The Search (3)[]

I'w hychwanegu.

The Final Phase (4)[]

I'w hychwanegu.

Cast[]

  • Dr. Who - William Hartnell
  • Ian Chesterton - William Russell
  • Barbara Wright - Jacqueline Hill
  • Vicki - Maureen O'Brien
  • Sita - Peter Sanders
  • Dako - Peter Craze
  • Lobos - Richard Shaw
  • Tor - Jeremy Bulloch
  • Cennad Morok - Salvin Stewart
  • Technegydd Morok - Ivor Salter
  • Gwarchod Morok - Lawrence Dean[1]
  • Gwarchod Morok - Peter Diamond
  • Gwarchod Morok - Ken Morris[1]
  • Gwarchod Morok - Salvin Stewart
  • Gwarchod Morok - Billy Cornelius
  • Cadlywydd Morok - Ivor Salter
  • Xerons - Michael Gordon[1], Edward Granville[1], David Wolliscroft[1], Bill Starkey[1]
  • Llais Dalek - Peter Hawkins
  • Gweithredydd Dalek - Murphy Grumbar

Cast di-glod[]

  • Dwbl Dr. Who:[2]
    • Brian Proudfoot
  • Llais Moroks (gan gynnwys Cadfridog Rhanbarth B, Cadfridog Rhanbarth K, Gwarchod Gellyngdod, Gwarchod Arfdy):[2]
    • Salvin Stewart

Criw[]

  • Awdur - Glyn Jones
  • Golygydd Stori - Dennis Spooner
  • Trefnydd Brwydrau - Peter Diamond
  • Cerddoriaeth Thema - Ron Grainer
  • Goleuo - Howard King
  • Sain - Ray Angel
  • Gwisgoedd - Daphne Dare
  • Colur - Sonia Markham
  • Dylunydd - Spencer Chapman
  • Cynhyrchydd - Verity Lambert
  • Cyfarwyddwr - Mervyn Pinfield

Cyfeiriadau[]

  • Mae'r Doctor yn honni roedd ef gyda James Wyatt wrth iddo darganfod pŵer stêm.
  • Mae'r Moroks yn dod wrth Morok.
  • Defnyddiodd Moroks nwy Saffra yn ystod creu eu hymerodraeth.
  • Mae gan yr amgueddfa arddangosiad Dalek, gyda arwydd yn cadarnhau mae'n dod o Sgaro.
  • Mae Vicki yn nodi bod "amser, fel y gofod, er yn dimensiwn ynddo'i hun, hefyd yn cael dimensiynnau ei hun".
  • Mae'r Doctor yn edrych ar ddelweddau o benny-farthing, buwch fôr, ac un o'i hun mewn siwt nofio wrth Oes Fictoria.
  • Mae'r Doctor yn honni mae ei ymennydd yn gweithio gyda "cyflymder cyfrifiadur mecanyddol".

Nodiadau[]

  • Mae pob episôd yn bodoli ar delerecordiau 16mm.
  • Y trydydd episôd yn unig, "The Search", cafodd ei gadw fel print ffilm positif gan y BBC Film and Videotape Library pan gafodd ei arolygu yn 1978.
  • Cafodd printiau negatif o'r pedwar episôd eu dod o hyd i.
  • Dychwelwyd print o ansawdd uwch o'r episôd cyntaf, "The Space Museum", i'r BBC yn 1981.
  • Teitlau gweithredol episodau cyntaf a phedwerydd y stori, "The Space Museum" a "The Final Phase", oedd "The Four Dimensions of Time" a "Zone Seven" yn eu tro.
  • Nid yw William Hartnell yn ymddangos yn "The Search" ar wahân i'r cysylltiad o'r episôd blaenorol, "The Dimensions of Time", gan fe roedd ar ei wyliau yn ystod yr wythnos cafodd ei recordio.
  • Allan o bob un o storïau William Hartnell gyda teitlau episodau unigol, dyma'r unig un sydd wedi cael ei chyfeirio ati gydag un teitl yn unig. Gwelwch Teitlau stori dadledig hefyd.
  • Yn ystod cynhyrchu'r stori yma, dewisodd Jacqueline Hill gadael y gyfres.
  • Dyma'r unig stori cyfarwyddodd Mervyn Pinfield ar ei ben ei hun yn gyfan.
  • Nid oedd Glyn Jones yn bles gyda golygiadau Dennis Spooner o'i sgriptiau, gan waredon nhw llawer o'r cynnwys siriol; teimlodd Spooner roedd cynnwys o'r fath yn anaddas mewn stori fe welodd fel stori fuglen gwyddoniaeth cysyniad uchel.
  • Mae'r episôd cyntaf, "The Space Museum", yn dechrau gydag ailgydiad o olygfa olaf The Crusade. Hyd heddiw, dyma'r unig ffilm 16mm du a gwyn o episôd olaf y stori, "The Warlords", sydd yn bodoli.
  • Gofynnwyd wrth Richard Shaw, a siaradodd gyda acen Cockney, wedi'i gastio fel Gofernor Lobos, i siarad mewn acen "Saesneg y BBC". Mae ond yn methu unwaith wrth iddo floeddi ar Forok i ddefnyddio "maximum securi'ee!".
  • Caiff cerddoriaeth achlysurol y stori yma i gyd eu tynnu wrth recordiadau stoc yn lle cael eu cyfansoddi'n arbennig ar gyfer y stori yma.
  • Mewn enghraifft bendigedig o barhadaeth mewnol, mae William Russell yn dechrau bwrw ei ddyrnau at ei gilydd yn ysgafn wrth iddo adael set mewnol y TARDIS, ac yn parhau i ystumio yn yr olygfa nesaf, yn dilyn saib mewn recordio, wrth iddo camu allan o'r blwch heddlu ac ar set arwyneb Xeros; mae hon yn uwcholeuo gweithrediad parhaus, ac felly'n cyfrannu at gadw'r rhith bod y tu mewn i'r TARDIS i gyd y tu mewn i'r plisgyn blwch heddlu.
  • Darparodd Salvin Stewart (Cennad Morok/Gwarchod Morok) ei lais ar gyfer cyfrifiadur yr arfdy yn "The Final Phase"; ni dderbyniodd ef gredyd am y rôl ar sgrîn nac yn Radio Times.
  • Dyma un o'r storïau gafodd eu dewis i gael eu dangos yn rhan o benwythnos Doctor Who BSB ym mis Medi 1990.
  • Yn hwyrach ymddangosodd Glyn Jones fel Krans yn The Sontaran Experiment bron degawyd yn hwyrach, ac o ganlyniad fel yw un o bump unigolyn i actio ac ysgrifennu am Doctor Who (y lleill yw Victor Pemberton, Derrick Sherwin, Mark Gatiss, a Toby Whithouse).
  • Yn anhebygol ar gyfer yr 1960au, mae'r episôd gyntaf, "The Space Museum", yn cynnwys golygfa mewnol, yn enwedig un o ystafelloedd y TARDIS, a gafodd ei ffilmio gan ddefnyddio ffilm yn lle tâp gan roedd rhaid dangos effaith arbennig - sef Vicki yn gollwng y gwydriad a'r gwydriad yn trwsio'i hun - nad oedd modd iddo cael ei greu gan ddefnyddio tâp fideo. Nid oedd y newid o fideo i ffilm yn sylwadwy yn y ddarllediad gwreiddiol a phan cafodd ei adfer yn yr 1980au, ond oedd y newidaeth yn sylwadwy pan gafodd y stori ei huwchraddio ar gyfer ei rhyddhad DVD yn 2010.
  • Mae sawl aelod o'r cast dim yn derbyn credyd yn Radio Times er iddynt cael eu credydu ar sgrîn, efallai o ganlyniad i ddiffyg gofod yn yr argraffiadau honno: Bill Starkey (Trydydd Xeron) ar gyfer "The Space Museum"; Lawrence Dean a Ken Norris (Gwarchodion Morok) ar gyfer pob episôd; a Michael Gordon, Edward Granville, David Wolliscroft, a Bill Starkey (Xerons) ar gyfer "The Search" a "The Final Phase".
  • Cynhyrchwyd y stori yr un pryd i gynhyrchiad y ffilm Dr. Who and the Daleks.
  • Detholwyd y stori yma fel stori hoffwyd lleiaf gan ddarllenwyr Doctor Who Magazine o storïau'r Doctor Cyntaf yn 2009 a 2014. Yn eu cystadleuthau eraill, cafodd ei dethol fel y stori hoffwyd ail leiaf.
  • Roedd Morok yn dynwared "moronic"; a daeth enw Lobos wrth y gair "lobotomy".
  • Enw gwreiddiol y Xerons oedd Tharls, yn dod wrth derm hynafol am gaethwas.
  • Achos gwreiddiol y gwyrdroad amser oedd peiriant yn ystafell prosesu'r Moroks, yn lle trafferth gyda darn o'r TARDIS.
  • Yn gynnar yn y proses cynhyrchu, dewiswyd byddai cais i achub arian trwy'r stori yma gan roedd The Web Planet yn gostus iawn. Cyfarwyddodd Mervyn Pinfield y stori yma, gan fyddai'i brofiad yn helpu cadw'r costau'n isel.
  • Yn fuan cyn ddechrau ffilmio, golygodd Dennis Spooner yr episôd olaf yn bellach, gan ychwanegu rhagarwaeniad am y stori nesaf, The Chase.
  • Gwisgodd yr actorion a chwaraeodd y Moroks aeliau ffug, a roedd aeliau eu hun wedi'u cuddio gan golur. Nid oedd yr aeliau ffug yn hawdd i weithio gyda wrth iddynt barhau i gwmpo bant o'u gwynebau.

Cyfartaleddau gwylio[]

  • "The Space Museum" - 10.5 miliwn
  • "The Dimensions of Time" - 9.2 miliwn
  • "The Search" - 8.5 miliwn
  • "The Final Phase" - 8.5 miliwn

Cysylltiadau[]

  • Mae'r Doctor yn trwsio'r Delweddydd Amser-Gofod (TV: The Chase) ac yn ei ddefnyddio unwaith eto. (SAIN: The Fourth Wall, The One Doctor) Defnyddiodd y Faction Paradox dyfeis tebyg i ddangos ei ddyfodol i Fitz. (PRÔS: The Ancestor Cell)
  • Byddai'r TARDIS yn neidio trac amser unwaith eto. (PRÔS: Festival of Death, Prisoner of the Daleks) Mae'r Unarddegfed Doctor hefyd yn meddwl efallai mae hon wedi digwydd unwaith eto pan mae ef, Amy a Rory yn newid trwy ddau freuddwyd gyda'r dau yn edrych i fod yn realiti, ond roedd ei dybiad yn anghywir. (TV: Amy's Choice)
  • Roedd Mortimus unwaith yn gynghorydd i'r Moroks. (PRÔS: No Future)
  • Byddai'r Doctor yn ymweld ag "amgueddfeydd y gofod" eraill yn hwyrach. (TV: The Seeds of Death, Daleks, The Time of Angels)

Rhyddhadau cyfryngau cartref a sain[]

Rhyddhadau DVD[]

Rhyddhawyd y stori ar DVD yn y DU ar 1 Mawrth 2010 fel ran o set bocs gyda The Chase. Cynhwysodd y set yr ychwanegion arbennig canlynol:

  • Sylwebaeth sain gan William Russell (Ian), Maureen O'Brien (Vicki), a'r awdur Glyn Jones, wedi'i cymedroli gan Peter Purves
  • Defending the Museum - Awdur cyfres newydd Doctor Who, Robert Shearman, yn adrodd amddiffyniad personol a manwl o'r stori yma
  • My Grandfather, the Doctor - Jessica Carney yn sôn am gyrfa ei thadcu, William Hartnell.
  • A Holiday For The Doctor - sgets comedi yn ailgreu Doctor Who yr 1960au, yn cynnwys Christopher Green ac actores Ida Barr
  • Rhestriadau Radio Times
  • Isdeitlau cynhyrchu
  • Oriel
  • Trelar Amser Nesaf - Myths and Legends

Rhyddhad Blu-ray[]

Rhyddhawyd y stori ar Blu-ray yn y DU ar 5 Rhagfyr 2022, fel rhan o'r set bocs The Collection: Season Two.

Rhyddhadau Digidol[]

Mae'r stori ar gael i ffrydio:

  • ar BritBox (UDA) fel rhan o Hen Gyfres 2 Doctor Who Clasurol.

Rhyddhadau VHS[]

Rhyddhawyd The Space Museum ar VHS ynghyd episodau The Crusade sydd dal i fodoli ar Gorffennaf 1999 (DU) ac ar Ionawr 2000.

Rhyddhadau Sain[]

  • Rhyddhawyd y stori ar CD gan BBC Audio ym Mai 2009 gydag adroddawd cysylltiadol a chyfweliad ychwanegol gyda Maureen O'Brien.
  • Ail-ryddhawyd y stori ym mis Medi 2013 yn rhan o'r set bocs The TV Episodes - Collection Six.

Troednodau[]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 Ni chredydwyd yn Radio Times
  2. 2.0 2.1 TCH 5