The Three Doctors yw stori gyntaf Hen Gyfres 10 Doctor Who.
Dyma stori aml-Doctor cyntaf y sioe, felly, sefydlodd y stori bod modd i fersiynau gwahanol y Doctor cwrdd. O ganlyniad, dychwelodd William Hartnell a Patrick Troughton i chwarae'r Doctor Cyntaf a'r Ail Ddoctor yn eu tro. O ran naratif y sioe, clodd y stori yma arc a ddechreuodd tair mlynedd ynghynt yn Hen Gyfres 7 yn 1970 o alltud y Doctor ar y Ddaear. Yn ychwanegol, gwelodd y stori y Brigadydd a Rhingyll Benton yn mynd i mewn i TARDIS y Doctor am y tro cyntaf. Dyma hefyd defnyddiad cyntaf yr ymadrodd "mae'n mwy o faint y tu mewn nac ar y tu fas", er mai'r Trydydd Doctor a ddywedodd hyn wrth awgrymu beth ddylai Benton ddweud.
Er bydd Troughton yn ymddangos mewn sawl stori aml-Doctor arall, dyma ymddangosiad olaf Hartnell fel y Doctor Cyntaf, ac ei unig stori aml-Doctor. O ganlyniad i'w salwch o arteriosclerosis, roedd cyflwyr Hartnell wedi dechrau gwanio. Awgrymodd ei wraig yn erbyn rôl caled iawn er lles ei iechyd. O ganlyniad, mae ymddangosiad Hartnell yn y stori wedi'u cyfyngu i fideos a gafodd eu recordio'n gynt. Recordiodd Hartnell ei linellau wrth eistedd mewn cadair yn stiwdio teledu Ealing, gan ddarllen wrth gardiau. Yn barhau i waethygu, bu farw Hartnell dwy flynedd yn diweddarach.
Crynodeb[]
Mae amser dan fygythiad! Mae'r Arglwyddi Amser yn cael eu hymosod ar gan elyn dirgelus. Mae eu pŵer hanfodol yn draenio i mewn i dwll ddu, a'r Doctor yw'r unig un all achub pawb. Ond mae ef yn sownd yn y TARDIS, heb yr abl i wneud ddim. Ei unig obaith yw i torri Gyfraith Gyntaf Amser a gadael i'r Doctor helpu ei hunan - yn lythrennol...
Plot[]
Episôd Un[]
I'w hychwanegu.
Episôd Dau[]
I'w hychwanegu.
Episôd Tri[]
I'w hychwanegu.
Episôd Pedwar[]
I'w hychwanegu.
Cast[]
- Dr. Who - Jon Pertwee
- Dr. Who - Patrick Troughton
- Dr. Who - William Hartnell
- Jo Grant - Katy Manning
- Brigadydd Lethbridge-Stewart - Nicholas Courtney
- Rhingyll Benton - John Levene
- Omega - Stephen Thorne
- Doctor Tyler - Rex Robinson
- Llywydd y Cyngor - Roy Purcell
- Mr. Ollis - Laurie Webb
- Canghellor - Clyde Pollitt
- Arglwydd Amser - Graham Leaman
- Ollis - Patricia Prior
- Corporal Palmer - Denys Palmer
Cast di-glod[]
|
Cyfeiriadau[]
Cyfeiriau diwylliannol o'r byd go iawn[]
- Mae Jo yn cyfeirio at y gân "I Am the Walrus" gan The Beatles.
- Mae'r Ail Ddoctor yn canu "Twinkle Twinkle Little Star" ar ei bibgorn.
- Mae Jo yn cymharu gwalfa Omega i "ogof Aladdin".
Bwydydd a Diodydd[]
- Mae'r Ail Ddoctor yn cynnig Jelly Baby i'r Brigadier.
Arglwyddi Amser[]
- Mae'n bosib cynnal "gynhadledd telepathig" rhwng fersiynau'r un Arglwydd Amser, mae hyn yn hawlio iddynt gyfnewid gwybodaeth ar gyflymder hynod o gloi.
Nodiadau[]
- Teitl gweithtredol y stori oedd The Black Hole.
- Mae'r stori yma yn dathlu dechreuad degfed gyfres teledu Doctor Who.
- O ganlyniad, dyma'r unig stori yn cynnwys William Hartnell a Patrick Troughton i fodoli ar y tâp fideo gwreiddiol. (Mae eu storïau o'u rhediadau gwreiddiol yn bodoli fel delerecordiadau yn unig.)
- Dyma'r cynhyrchiad cyntaf i gyfeirio at rywogaeth y Doctor Cyntaf fel Arglwydd Amser, gan gynhyrchwyd pob bortread blaeonorol o'i gymeriad cyn ddefnydd cyntaf y term yn The War Games.
- Dyma ymddangosiad cyntaf Omega. Yn wreiddiol, enw Omega oedd OHM, sef "WHO" yn ben i waered. Defnyddiwyd yr enw "Ohm" am hen dduw Galiffrei yn y nofel The Infinity Doctors.
- Mae'r stori yma yn dynodi'r tro cyntaf gwelwyd y Doctor Cyntaf a'r Ail Ddoctor ar-sgrîn mewn lliw.
- Roedd cynllun am ddychweliad Jamie ac iddo cael rhammant gyda Jo. Ond, gan roedd Frazer Hines yn brysur gydag Emmerdale rhowd ei linellau i Benton. Er mwyn achub y syniad o ddychweliad i Jamie, ceisiodd y tîm cynhyrchu ysgrifennu olygfa bach ar ddiwedd y stori ohono yn galw'r Ail Ddoctor nôl i linell amser ei hun, ond gollyngwyd y cynllun o achos amrwymiadau Emmerdale.
- Roedd y tîm hefyd yn ystyried cael Zoe nôl, ond teimlodd John Pertwee byddai cael gormodedd o gymeriadau yn dychwelyd yn tynnu sylw wrth y stori.
- Mae'r stori yn cynnwys dyluniad newydd ar gyfer ystafell consol y TARDIS gan Roger Liminton. Roedd hyn achos dinistriwyd y set o'r stori flaenorol, The Time Monster wrth gael ei storio, a nid oedd Barry Letts yn hoff o'r dyluniad.
- Mae'r stori yn dynodi gorffeniad alltud y Doctor ar y Ddaear. Mae hefyd yn dynodi dechreuad diflaniad UNIT fel cynhwysiad rheolaidd ar y gyfres, wrth i'r Doctor treulio mwy a mwy o amser oddi ar Ddaear yr 20fed ganrif.
- Mae'r Ail Ddoctor yn cynnig Jelly Baby i'r Brigadydd. Cwpwl o flynyddoedd yn diweddarach, dychwelodd y losin fel ffefryn y Pedwerydd Doctor.
- Dewiswyd y stori yma i gael ei arddangos yn rhan o Benwythnos Doctor Who BSB yn Medi 1990.
- Defnyddiwyd rhannau o'r stori yma yn y stori The Sarah Jane Adventures, Death of the Doctor, fel atgof o amser Jo gyda'r Doctor. Dyma unig ymddangosiad Patrick Troughton a William Hartnell yn The Sarah Jane Adventures.
- Mae'r stori yma yn dynodi'r tro cyntaf i Jon Pertwee a William Hartnell gweithio ar yr un cynhyrchiad ers y ffilm Will Any Gentleman...? yn 1953.
- Ailddarlledwyd y stori ar nosoedd olynol o Ddydd Llun 23 nes Dydd Iau 26 Tachwedd 1981 yn rhan o The Five Faces of Doctor Who, er mwyn dathlu 18fed pen blwydd y sioe. Cyfeiliwyd y rhestriad Radio Times ar gyfer episôd dau gyda llun du-a-gwyn o'r Doctor Cyntaf, yr Ail, a'r Trydydd Doctor, gydag isdeitl o "Patrick Troughton, Jon Pertwee, and William Hartnell - The Three Doctors called in to save the Time Lords and the Universe from doom: 5.35".
- Er bwriad y stori oedd i ddathlu degfed pen blwydd Doctor Who, darlledwyd y stori tua 11 i 10 mis yn gynharach na'r pen blwydd, wnaeth ddigwydd yn go iawn yn y bwlch rhwng Hen Gyfres 10 ac 11.
- Yn y stori gwreiddiol, Deathworld, roedd yr Arglwyddi Amser yn brwydro gyda Chyfundod Marwolaeth wedi'u harwain gan bersoniad Marwolaeth. Er mwyn osgoi rhyfel eang, llwyddodd yr Aglwyddi Amser i gawl hawl wrth y Gyfundod i ddanfon y tri Doctor i mewn i wlad uffern y Gyfundod. Yno, byddai'r tri Doctor wedi brwydro gyda sawl ymgorfforiad o farwolaeth, gan gynnwys sombîs, Pedwar Marchog yr Apocalyps, y Dduwies Hindŵ, Kali, a'r seiclops Polyphemus wrth chwedlau Groeg - gyda'r ochr llwyddiannus yn dewis os mai'r Arglwyddi Amser neu Gyfundod Marwolaeth sydd yn ennill.
- Unwaith gofynnwyd Terrance Dicks os oedd Patrick Troughton a Jon Pertwee yn dod ymlaen, a fe ymatebodd "dim o gwbl" ar gellwair. I ddechrau, gwrthdarodd y ddau dros gwahaniaethau arddulliau actio a gweithio - yn aml bu Troughton yn adlibio, tra glynodd Pertwee i'r sgript. Yn dilyn Pertwee yn gofyn Troughton am un o'i adlibiau, fe ymatebodd, "Yn lle pryderu am beth fyddai i'n dweud, meddylia am beth fyddi di'n dweud". Dadleuodd y ddau hefyd am arferiad Pertwee o symud Stephen Thorne er mwyn cael ongl gwell o'i hun ar gamera, rhywbeth roedd Troughton yn erbyn gan deimlodd roedd y camerau yn ffocysu'n gywir ar y bwystfilod. Yn y pendraw, daeth y ddau yn ffrindiau agos iawn, gan chwarae ymryson mewn confensiynnau. Cafodd hon effaith hwyrach yn ystod ysgrifennu The Five Doctors, gyda Dicks yn ysgrifennu'r sgript yn fwriadol i gadw'r Ail a Trydydd Doctor ar wahân nes ddiwedd y stori gyda pawb arall; rhywbeth a wnaeth siomu Troughton a Pertwee.
- Byrfyfyriodd Nicholas Courtney linell y Brigadydd am Cromer.
- Byrfyfyriodd Patrick Troughton galw Omega yn "bloke" yn dilyn linell John Levene.
- Yn gwreiddiol, ysgrifennwyd cyfeiriad cyntaf at Metebelis III, (er Metebelis IV oedd ei enw yn gyntaf) a byddai'r Doctor wedi gwahodd Jo i weld y blaned. Byddai'r linell wedi dechrau arc stori a fyddai'n parhau trwy'r cyfres nes The Green Death, a bellach i Planet of the Spiders. Oherwydd cyfyniadau amser, gollyngwyd y linell - er i Terrance Dicks ailgynnwys y linell yn y nofeleiddiad - a crybwyllwyd y blaned las am y tro cyntaf yn y stori olynol, Carnival of Monsters.
- Gan nad oedd modd i Richard Franklin ymddangos yn y stori, cymerodd Rhingyll Benton rôl gwreiddiol Captain Yates, a cymerodd cymeriad newydd, Corporal Palmer, llinellau gwreiddiol Benton.
Cyfartaleddau gwylio[]
- Episôd un - 9.6 miliwn
- Episôd dau - 10.8 miliwn
- Episôd tri - 8.8 miliwn
- Episôd pedwar - 11.9 miliwn
Cysylltiadau[]
- Mae'r Ail Ddoctor a'r Brigadydd yn sôn am eu brwydr yn erbyn y Cybermen. (TV: The Invasion) Mae'r Brigadydd hefyd yn sôn am ei gyfarfod cyntaf â'r Doctor yn ystod ymosodiad y Yeti. (TV: The Web of Fear)
- Cyfeiriwyd at y ddau adeg newidodd y Doctor ei ymddangosiad. (TV: The Tenth Planet, The War Games)
- Am eiliad, gwelwyd y Doctor Cyntaf mewn gardd rhosynnau sydd yn gysylltiedig a'i fywyd cynnar. (TV: The Five Doctors, PRÔS: Lungbarrow, SAIN: Auld Mortality)
- Bydd y Bumed Doctor yn cyfarfod â Omega yn hwrach wrth iddo ceisio gadael ei fydysawd gwrthfaterol a chael ffurf ffisegol unwaith eto. (TV: Arc of Infinity)
- Yn ôl y Degfed Doctor, "dyfeisiwyd" tyllau duon gan yr Arglwyddi Amser. (TV: The Satan Pit)
- Mae tyllau duon a sêr wrthi'n gwympo yn ffynhonellau pŵer hollbwysig i dechnoleg yr Arglwyddi Amser. (TV: The Deadly Assassin, Doctor Who, Journey to the Centre of the TARDIS)
- Cysylltwyd neu enwyd rhai o ddyfeisiau yr Arglwyddi Amser ar ôl Omega, megis Llaw Omega (TV: Remembrance of the Daleks) ac Arfdy Omega (TV: The Day of the Doctor)
- Ar ol cael ei ddychwelyd i'w TARDIS gan yr Arglwyddi Amser, yn dilyn diflannu o flaen ei gymdeithion Vicki Pallister a Steven Taylor, cofiodd y Doctor Cyntaf antur gydag "ysgogyn a chlown". (PRÔS: The Empire of Glass)
- Er ni chofiodd yr Ail Ddoctor dim am ei antur yn cwrdd a'i hunan henach a trechu Omega yn dilyn cael ei ailymuno â Jamie McCrimmon a Zoe Heriot, cofiodd yr Ail Ddoctor collodd ei recorder a bod angen iddo fynd i siop gerddoriaeth ar Orsaf Amber i brynu un newydd. (PRÔS: Briefly Noted)
- Chwaraeodd yr Ail Ddoctor "Twinkle Twinkle Little Star" ar ei recorder. Chwaraeodd ef y gân hefyd yn ystod ei ymweliad â Mynachlog Det-Sen yn Tibet yn 1935. (TV: The Abominable Snowmen)
- Mae'r Ail Ddoctor yn rhoi sylwad am beidio hoffi'r ffordd wnaeth ei ymgorfforiad dyfodol "ailaddurno" "ei" TARDIS. Byddai ef hwyrach yn mynegu sylw tebyg am bencadlys newydd UNIT. (TV: The Five Doctors) Yn diweddarach, byddai'r Pumed Doctor yn beirniadu TARDIS y Degfed Doctor. (TV: Time Crash) A byddai'r Degfed Doctor yn ei dro yn sylwadu ar gonsol yr Unarddegfed Doctor. (TV: The Day of the Doctor) Mae Clara yn ddweur yr un peth am newidiadau'r Deuddegfed Doctor i'r ystafell gonsol. (TV: Deep Breath) Leisiodd yr Unarddegfed Doctor yr un beirniadaeth am dŷ newydd Craig Owens (TV: Closing Time) Wrth weld ystafell gonsol ei TARDIS, mae'r Trydydd ar Ddegfed Doctor yn gwrthgyferbynu'r tueddiad hon trwy ddweud ei bod hi'n hoffi'r addurniadau. (TV: The Ghost Monument)
- Mae'r Ail Ddoctor yn adnabod Benton wrth eu hantur yn erbyn y Cybermen, er mae'n rhagdybio mai dal Corporal yw ef. (TV: The Invasion)
- Mae Jo yn rhagdybio bod hi a'r Doctor wedi marw. (TV: The Time Monster)
Rhyddhadau cyfryngau cartref[]
Rhyddhadau DVD[]
rhyddhawyd y stori hon ar DVD fel Doctor Who: The Three Doctors ar 24 Tachwedd 2003 (DU), 12 Tachwedd 2003 (UDA), ac ar 2 Mawrth 2004.
Cynnwys:
- Pebble Mill at One - cyfweliadau gyda Bernard Wilkie a Patrick Troughton o Nadolig 1973.
- Blue Peter - Jon Pertwee a'r Whomobile yn y sitwdio.
- BSB - darnau wrth benwythnos "31 Who" BSB.
- PanoptiCon 93 - Jon Pertwee, Katy Manning a Nicholas Courtney ar y llwyfan yn PanoptiCon '93.
- Trelars
- Oriel
- Is-deitlau cynhyrchu
- Sylwebaeth sain gan Nicholas Courtney, Katy Manning, a Barry Letts
Nodiadau:
- Cyflawnodd y Doctor Who Restoration Team golygu ar gyfer y rhyddhad.
- Rhyddhawyd hefyd yn y DU fel argraffiad arbennig a gynhwysodd model o Bessie.
Rhyddhadau digidol[]
Mae'r stori ar gael:
- yn storfeydd iTunes (Awstralia, Canada, Ffrainc, yr Almaen, DU a'r UDA) yn rhan o gasgliad Doctor Who: The Classic Series, Doctor Who: The Best of the Third Doctor, sydd hefyd yn cynnwys y storïau Spearhead from Space, The Green Death a Planet of the Spiders;
- Ar Amazon Video (DU) fel Cyfres 65 o Doctor Who (Classic) series;
- Ar Amazon Video (UDA) fel rhan o Hen Gyfres 10 yn Doctor Who: The 50th Anniversary Collection, sydd hefyd yn cynnwys Carnival of Monsters;
- i ffrydio ar BritBox (UDA) yn rhan o Hen Gyfres 10 Doctor Who Clasurol.
Rhyddhadau VHS[]
Rhyddhawyd y stori ar VHS fel Doctor Who: The Three Doctors yn Awst 1991 (DU) ac yn Ionawr 1992. Rhyddhawyd hefyd yn W H Smith fel rhan o The Time Lord Collection yn y DU ym Medi 2002.
Troednodau[]
|