The Time Meddler oedd nawfed stori a stori olaf Hen Gyfres 2 Doctor Who. Dyma'r stori cyntaf gau-hanesyddol: stori hanesyddol gydag elfennau ffuglen-gwyddonol ar wahân i bresenoldeb y cymeriadau rheolaidd a'r TARDIS. (Er cafodd elfennau ffuglen-gwyddonol eu cymysgu gyda ffeithiau hanesyddol mewn rhan o The Chase, dyma'r stori cyntaf llawn i gymysgu'r ddau.)
Dyma hefyd y stori cyntaf i gynnwys dau gydymaith un unig - Vicki a Steven - fformat a ddaw yn rheolaidd ar gyfer gweddill oes y Doctor Cyntaf a'r rhan fwyaf o gyfnod yr Ail Ddoctor; gyda dychweliadau anaml i'r fformat pob degawd dilynnol, yn nodedig yn yr 1970au gyda Hen Gyfres 12, yn yr 1980au gyda Hen Gyfes 21, yr 2010au gyda Cyfres 6 a Cyfres 10, ac yn yr 2020au gyda Flux.
Y Mynach oedd yr Arglwydd Amser cyntaf y tu fas i'r Doctor a Susan i ymddangos yn y gyfres, serch y ffaith ni chafodd y term ei dyfeisio nes pedair blynedd yn diweddarach. Yn ychwanegol, y Mynach oedd gelyn cylchol cyntaf y gyfres.
Mae'r stori yma'n cynnwys y cyfeiriad cyntaf at beth fyddai, yn y pendraw, yn troi i mewn i polisi di-ymyrraeth yr Arglwyddi amser. Er nid yw'r Doctor yn cyfeirio at y polisi'n uniongyrchol, mae'n amlwg am ymddwyn yn oeraidd at y rhai sydd yn ceisio newid amser. Fel yn The Space Museum, dangoswyd amser fel peth newidadwy yn theori, yn wahanol i'r golwg cyflwynwyd yn The Reign of Terror. Yn hwyrach, byddai cysyniad amser yn cael ei ehanghu ar i gynnwys y dau elfen mewn sawl stori olynol, gan gynnwys Attack of the Cybermen a The Waters of Mars.
Mae'n amlwg cafodd y stori yma ei cynhyrchu yn yr 1960au: mae pob un o eiddo'r Mynach (ar wahan i'r "canon atomig") o'r cyfnod hwnnw, ac mae'n cyfeirio at y TARDIS fel blwch heddlu "modern". Ei gramoffon yw ei unig peth hen-ffasiwn, ond y bwriad yn y sgript oedd i gael recordydd tâp.
Ond dwy fis yn dilyn ei absenoldeb olaf, ymgyrchodd Hartnell ar wyliau arall, ac felly ni ymddangosodd yn ail episôd y stori, "The Meddling Monk". Roedd gan gosodiad hanesyddol y stori perthnasoldeb arbennig yn 1965, gan roedd 900fed pen blwydd Brwydr Hastings ond blwyddyn i ffwrdd. Oherwydd cyfyngiadau cynhyrchu, nid oedd modd i Doctor Who cynnwys y brwydr yn foddhaol, ond nid oedd modd hefyg anwybyddu'r ffaith yn gyfan gwbl, ac felly cymerwyd y cyfnod fel gosodiad ar gyfer y stori. (About Time 1)
Crynodeb[]
Mae'r Doctor, Vicki, a chydymaith newydd Steven Taylor yn cyrraedd Northumbria Sacsonaidd braidd cyn goresgyniadau'r Llychlynnwyr a'r Normaniaid. Y flwyddyn yw 1066, adeg canfodol yn hanes prydain. Ond, mae llaw Mynach drwdybus yn fynachdy gerllaw yn mynnu bod hanes yn cymryd llwybr gwahanol.
Plot[]
The Watcher (1)[]
I'w hychwanegu.
The Meddling Monk (2)[]
I'w hychwanegu.
A Battle of Wits (3)[]
I'w hychwanegu.
Checkmate (4)[]
I'w hychwanegu.
Cast[]
- Dr. Who - William Hartnell
- Vicki - Maureen O'Brien
- Steven - Peter Purves
- Mynach - Peter Butterworth
- Edith - Alethea Charlton
- Eldred - Peter Russell
- Wulnoth - Michael Miller
- Helwr Sacsonaidd - Michael Guest
- Ulf - Norman Hartley
- Arweinydd Llychlynnaidd - Geoffrey Cheshire
- Sven - David Anderson
- Gunnar y Cawr - Ronald Rich
Cast di-glod[]
|
Criw[]
- Awdur - Dennis Spooner
- Trefnydd Brwydrau - David Anderson
- Cerddoriaeth Thema - Ron Grainer a'r BBC Radiophonic Workshop
- Offerynnau Taro - Charles Botterill
- Gwisgoedd - Daphne Dare
- Colur - Sonia Markham
- Goleuo - Ralph Walton
- Sain - Ray Angel
- Golygydd Stori - Donald Tosh
- Dylunydd - Berry Newbery
- Cynhyrchydd - Verity Lambert
- Cyfarwyddwr - Douglas Camfield
Cyfeiriadau[]
Bwydydd a diodydd[]
- Mae Steven yn bwyta aeron duon am frecwast.
- Yfa'r Doctor fedd wrth gorn.
Hanes a theithio amser[]
- Mae'r Mynach yn honni fe gyfranodd at adeiladiad Côr y Cewri trwy ddefnyddio lifft di-ddisgyrchiant.
- Mae'r Doctor yn adrodd y "rheol euraidd o ran teithio trwy'r gofod ac amser: peidiwch byth ymyrru â hanes".
- Mae'r Mynach yn bwriadu hyfforddi dynoliaeth ar wyddoniaeth a thechnoleg canrifoedd o'r dyfodol yn dilyn cyflawni ei cynllyn i ddinistrio'r llynges Llychlynnaidd; mae ei gynlluniau yn cynnwys rhoi'r cyfle i Shakespeare gwylio Hamlet ar deledu, ac i rhoi jetiau i ddynoliaeth erbyn 1320 yn dilyn rhoi digon o wybodaeth iddynt i'w hawlio.
Nodiadau[]
- Teitl gwethredol y stori oedd "The Monk". Roedd gan yr episôd "The Watcher" teitl gweithredol o "The Paradox". Honnodd David Maloney, cynorthwyydd cynhyrchu ar y pryd, taw teitl gweithredol y stori oedd The Vikings nes sydweddolodd y criw roedd mwy o ecstras Sacsonaidd na Llychlynnaidd. Penderfynnwyd ar y teitl terfynnol wrth rhoi deunydd hysbysebiol at ei gilydd.
- Dyma'r stori gyntaf lle mae'r acronym TARDIS yn sefyll am "Time and Relative Dimensions in Space", gyda'r mân wahaniaeth o gael "Dimensions" yn y lluosog yn lle'r unigol fel yn TV: An Unearthly Child. Mewn gwirionedd camgymeriad ar ran Maureen O'Brien yn ystod recordio oedd hon, ond cafodd y ffurf hon ei cadw trwy gydol rhan fwyaf o hanes y gyfres.
- Mae pob episôd yn bodoli fel telerecordiad 16mm, er mae gan "Checkmate" ran 12 eiliad lle mae'r Llychlynnwyr Ulf a Sven yn cael eu llofruddio gan Wulnoth a'r Sacsoniaid; ni wyddir os oes gopi cyflawn o'r episôd yn bodoli. Mae'r cyfran sain o'r olygfa yma yn goroesi wrth recordiad cartref, ac mae wedi'i gynnwys fel ychwanegiad ar y rhyddhad DVD.
- Mae Peter Purves yn derbyn credyd am "Steven Taylor" ar gyfer "The Watcher", ac am "Steven" ar gyfer "The Meddling Monk" nes "Checkmate".
- Roedd William Hartnell ar wyliau yn ystod yr wythnos recordiwyd "The Meddling Monk", ac felly mae ei ymddangosiad wedi'i cyfyngu i'r ailgychwyniad ar y ddechrau, ac fel dros-leisiadau recordiwyd cyn.
- Cedwir print o'r episôd "The Meddling Monk" yn y Llyfrgell Ffilm a Theledu. Darganfuwyd printiau anghyflawn o bob episôd yn Nigeria yn 1985. Dychwelwyd printiau cyflawn o "The Watcher" ac "A Battle of Wits" i'r archif yn 1992.
- Cadwyd telesnapiau'r stori yma gan gasglydd preifat.
- Nid oes capsiwn "Episôd Nesaf" yn bresennol ar ddiwedd "Checkmate", ac felly'n dynodi'r tro cyntaf i episôd peidio cael un. Yn lle, mae fersiwn estynedig o'r cerddoriaeth thema yn chwarae wrth i luniau o'r tri prif actor yn ymddangos o flaen cefndir o'r gofod. Mae hon yn wahanol i stori olaf y gyfres diwethaf, The Reign of Terror, gan ddarparodd yr episôd hwnnw capsiwn ar gyfer episôd cyntaf Planet of Giants.
- Mae fersiynnau o'r stori yma, yn enwedig y rhai darlledwyd yn yr UDA yn ystod yr 1980au, wedi dileu'r golygfa yn "The Watcher" lle mae'r Doctor a Vicki yn darganfod Steven yn cuddio yn y TARDIS.
- Dewiswyd y stori yma am ailddarllediad gan gefnogwyr y sioe i gynrychiolu cyfnod William Hartnell ar gyfer Doctor Who @40.
- Cymerwyd y ffilm o'r llong Llychlynnaidd wrth segment newyddion y BBC ar gyfer ailgrëad Llychlynnaidd ar arfordir deheuol Lloegr. Yn fersiwn y DVD ailfeistrolwyd, triniwyd yr olygfa o'r recordiad 35mm gwreiddiol; yn ôl pob sôn, roedd safon yr olygfa o ganlyniad yn rhy uchel o'i gymharu â'r tâp a ffilm 16mm triniwyd, ac felly dewisodd y tîm ailfeistrolu ychwanegu graen digidol a meddalu'r llun er mwyn cael yr olygfa i edrych fel gweddill yr episôd. Mae modd dod o hyd i'r item cyflawn ar y rhyddhad DVD fel ychwanegiad.
- Dyma stori pedair rhan olaf Douglas Camfield nes Terror of the Zygons - dros degawd yn ddiweddarach.
- Mewn gwirionedd, Set TARDIS y Doctor yw set o'r tu mewn o TARDIS y Mynach gyda mân newidiadau, megis y consol ar platfform uwch.
- Yn ôl Donald Tosh, roedd cyfeiriaeth y Doctor at gyrhaeddiad Gwilym y Gorchfygwr yn y dyfodol yn ychwanegiad gan William Hartnell. "Of course none of this had been in the script. And we were all supposed to be ever so grateful! He had remembered vaguely what Dennis's dialogue was all about and thought that we'd be disappointed if he didn't manage to get the plot across. For some technical reason we weren't able to shoot it again so it had to stay in."
- Yn ystod cynhyrchiad y stori yma, dechreuodd cynhyrchydd newydd John Wiles cymryd dros cyfrifoldebau cynhyrchu, ac felly wnaeth William Hartnell, yn anfodlon gyda'r nifer o newidiadau yn ystod cynhyrchu, esgus cael stranc yn ystod ymarfer y stori yma.
- Desgrifiodd Peter Purves y stori yma fel "a nice bit of nonsense".
- Roedd Douglas Camfield yn hoff o'r comedi yn y stori yma fel cyferbyniad i'r cynnwys trymach erail yn y gyfres.
- Enwyd sawl cymeriad yn y stori yma ar ôl pobl go iawn: Edith yn dilyn un o chwiorydd Harold; Ulf yn dilyn iarll ac wncl Harold; Sven yn dilyn brawd Harold, Sweyn; ac Wulnoth wrth dadcu Harold, Wulfnoth.
- Yn dilyn ymadawiad William Russell a Jacqueline Hill yn y stori blaenorol, daeth William Hartnell yr unig aelod o'r cast gwreiddiol.
- Mae'r credydau cloi unigryw yn dynodi'r amser cyntaf mae gwyneb y Doctor yn cael ei ddangos yn y credydau, gan ragflaenu'r digwyddiad cyffredinol o wyneb y Doctor yn ymddangos yn y credydau agoriadol o The Moonbase ymlaen. Dyma'r unig defnyddiad o wyneb William Hartnell yn y ffordd yma (ar wahân The Day of the Doctor), ac hefyd fe ragflaenodd y defnydd rheolaidd o wyneb y Doctor yng nghredydau cau'r sioe o The Leisure Hive nes The Ultimate Foe.
- Gan roedd Dennis Spooner yn gyfarwydd gyda'r gyfres, nid oedd gan Donald Tosh llawer o waith i wneud am ei gredyd golygydd sgript cyntaf. Serch hynny, roedd araith hir yn gwreiddiol yn rhan o "A Battle of Wits" roedd Tosh yn anhapus gyda ac felly fe gynlluniodd omitio'r deialog ar ddydd recordio.
- Yn gwreiddiol, roedd bwriad i ffilmio'r stori yn Riverside Studios, ond fe ddewiswyd symud recordio nôl i BBC Television Centre.
- Yn union fel y storïau cynnar, dewiswyd defnyddio cerddoriaeth llyfrgell yn lle talu artist i gyfansoddi sgôr ac i arwain cerddorwyr. Defnyddiwyd gwaith Eric Siday, yn union fel The Edge of Destruction. Serch hynny, roedd digon o arian i hawlio llogu cerddorwr unigol i ddarparu cerddoriaeth drwm, sef Charles Botterill, a wnaeth gweithio fel drymiwr o dan Tristam Cary ar Marco Polo.
- Ar gyfer yr olygfeydd lle llwyddodd y mob Sacsonaidd gormesu a lladd yr Llychlynnwyr goresgynnol, cyfnewidiwyd yr actorion am ddymïau.
- Yn gwreiddiol roedd Douglas Camfield eisiau credydu'r actorion a chwaraeodd yr ecstras Sacsonaidd fel Pentrefwyr Sacsonaidd, ond cafodd y syniad ei ollwng.
Cyfartaleddau gwylio[]
- "The Watcher" - 8.9 miliwn
- "The Meddling Monk" - 8.8 miliwn
- "A Battle of Wits" - 7.7 miliwn
- "Checkmate" - 8.3 miliwn
Cysylltiadau[]
- Mae'r Doctor a Vicki yn sgwrsio ymadawiad Ian a Barbara (TV: The Chase) ac mae'r Doctor yn cyfeirio at ei wyres, Susan. (TV: The Dalek Invasion of Earth)
- Nid yw'r Doctor yn hoff o gael ei alw'n "Doc". (TV: The Dalek Invasion of Earth. The Five Doctors, The Twin Dilemma, The Ultimate Foe, Dreamland)
- Gwelir y Mynach nesaf yn TV: The Daleks' Master Plan.
- Cuddiodd Steven ar long y TARDIS. (TV: The Chase)
- Mae Vicki yn cyfeirio at eu hymweliad i Efrog Newydd, gan gynnwys gweld yr Adeilad Empire State. (TV: The Chase)
- Nid Steven yw'r bod dynol cyntaf sydd ddim yn credu taw peiriant teithio amser yw'r TARDIS i ddod yn gydymaith i'r Doctor. Yn union fel wnaeth y Doctor ar gyfer Barbara ac Ian, mae'r Doctor yn tywys Steven i'r gorffennol i brofi fe'n anghywir. (TV: An Unearthly Child)
- Mae Vicki yn disgrifio abl y TARDIS i cuddio o fewn ei hamgylchfyd i Steven fel dioddef o "nam technegol" a fydd y Doctor yn ei trwsio un dydd. Mae'r TARDIS wedi bod yn sownd mewn ffurf blwch heddlu ers gadael Llundain yn 1963. (TV: An Unearthly Child)
- Mae llawysgrifen y Doctor yn hollol wahanol i'r un gwelir yn TV: The Sensorites)
- Ymwelodd y Doctor a Vicki gyda mynachdy arall, Sonning Palace, yn 1400 yng nghwmni Ian a Barbara. (SAIN: The Doctor's Tale)
- Yn hwyrach, bydd yr Wythfed Doctor a'i gydymaith Mary Shelley yn cwrdd â Harold Godwinson yn ystod Brwydr Hastings. (SAIN: Mary's Story) Cwrddodd y Chweched Doctor a Peri Brown â Harold, yn cuddio tu ôl y llysenw "Hereward the Wake", yn dilyn y frwydr. (PRÔS: The Real Hereward) Yn ychwanegol, cafodd gymedrolydd helmig TARDIS y Doctor ei bwrw a thorri pan fwrwyd gan saeth yn ystod ymweliad yr Unarddegfed Doctor i'r frwydr. (WC: Pond Life)
- Yn dilyn cwrdd y Mynach, rhodd y Doctor dyfeis i mewn i'w TARDIS er mwyn canfod ceisiadau pellach i newid hanes. (PRÔS: The Schoolboy's Story)
- Yn ei wythfed ymgorfforiad, cwrdodd y Doctor â'r Mynach, unwaith eto yn cuddio fel mynach, yn Abaty Kell. Fe atgofiodd ei gyfarfyddiad cyntaf gyda'r Mynach i Tamsin Drew yn dilyn darganfod Rhaw Amser adeiladwyd wrth gylched defateroli TARDIS y Mynach. (SAIN: The Book of Kells)
Rhyddhadau cyfryngau cartref a sain[]
Rhyddhadau DVD[]
Rhyddhawyd y stori fel Doctor Who: The Time Meddler ar 4 Chwefror 2008 (DU), ar 2 Ebrill 2008 (Awstralia), ac ar 5 Awst 2008 (UDA).
Ychwanegiadau arbennig[]
- Sylwebaeth sain gan Verity Lambert (cynhyrchydd), Peter Purves (Steven Taylor), Donald Tosh (golygydd stori), a Barry Newbury (dylunydd), wedi'u rheoli gan Clayton Hickman
- Verity Lambert Obituary - Edrych nôl ar yrfa un o grewyr Doctor Who.
- The Lost Twelve Seconds - Mae rhan fach o episôd pedwar ar goll o hyd, ac felly mae'r item fer yma yn defnyddio recordiad sain cartref a'r sgript er mwyn rhoi cyd-destun i'r 12 eiliad.
- Restoration - Cipolwg ar y dulliau ddefnyddiwyd i ailfeistroli'r stori
- Stripped for Action - The First Doctor - Edrychiad ar stribedi comig y Doctor Cyntaf
- Oriel Verity Lambert - Casgliad o luniau o'r cynhyrchydd
- Rhestriadau Radio Times - Rhestriadau gwreiddiol wrth Radio Times yn fformat PDF
- Oriel
- Is-deitlau cynhyrchu
- Trelar amser nesaf - The Five Doctors: 25th Anniversary Edition
Credydau'r cefn[]
- Yn serennu William Hartnell gyda Peter Purves a Mauren O'Brien
- Ysgrifennwyd gan Dennis Spooner
- Cynhyrchwyd gan Verity Lambert
- Cyfarwyddwyd gan Douglas Camfield
Nodiadau[]
- Cyflawnwyd golygu ar gyfer y rhyddhad gan y Doctor Who Restoration Team.
Rhyddhadau Blu-ray[]
Rhyddhawyd y stori yma ar Blu-ray yn y DU ar 5 Rhagfyr 2022, fel rhan o'r set bocs The Collection: Season 2.
Rhyddhadau Digidol[]
Mae'r stori ar gael:
- i ffrydio trwy BritBox (UDA) fel rhan o Hen Gyfres 2 o Classic Doctor Who.
Rhyddhadau VHS[]
Rhyddhawyd y stori yma fel Doctor Who: The Time Meddler ym Mehefin 2000. Rhyddhawyd y stori hefyd yn y DU fel rhan o'r The First Doctor Collection ac oedd ar gael yn yr UDA fel rhan o The End of Universe Collecion ac hefyd fel rhyddhad ar wahân yn Hydref 2003.
Troednodau[]
|
|