Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

The Web Planet oedd pumed stori Hen Gyfres 2 Doctor Who. Yn union fel y Voord ynghynt, dyluniwyd creuaduriaid Fortis i fod yn gofiadwy, gan nad oedd y sioe eisioes wedi cynhyrchu gelyn i gymharu â phoblogrwydd y Daleks. Roedd hefyd gan y stori yn nifer fwyaf o wylwyr cyfartaleddol yng nghyfnod Hartnell gyda 13.5 miliwn gwyliwr.

Meddyliodd Bill Strutton am syniad y stori yma pan gafodd ei gnoi gan forgrugyn fel plentyn ac wrth wylio pryfed yn brwydro. Fe adnabodd hefyd y cyfleoedd rhowd gan Doctor Who, gan ddefnyddio'r Daleks gan Terry Nation fel cymhariaeth. Roedd golygydd sgript Dennis Spooner yn hoff o'r syniad, gan gredu roedd modd i'r stori cyfleu neges am gymdeithasiaeth, gyda'r Sarbi a'r Menoptera yn cynrychiolu'r gormeswyr a'r gorthrymedig yn eu tro. (CYF: About Time 1)

O bell ffordd, Web oedd y stori mwyaf arbrofiol a uchelgeisiol o ran crefftwaith gynhyrchodd Verity Lambert. Tra teimlodd rhai roedd y stori yn ceisio ymestyn posibiliadau Doctor Who, teimlodd eraill roedd y stori yn rhy uchelgeisiol. (DCOM: The Web Planet)

Yn ychwanegol, roedd y stori yn diddorol o ran hysbysiaeth oherwydd dyma'r stori gyntaf i gael trelar ar ei chyfer. (Doctor Who Yearbook 1994) Ond, nid oedd y cyfarwyddwr Richard Martin yn hoff o hyn, gan deimlodd ef roedd y trelar yn datgan gormodedd o blot y stori, gan gafodd clipiau wrth epiodau hwyrach y stori eu cynnwys. Credodd Verity nad oedd ef yn hoff o'r defnydd o clip a welodd y Sarbi yn mynd i mewn i'r stiwdio teledu, a chyfiawnhaodd hi'r cynhwysiad yma trwy feddwl byddai'r defnydd o osodiad cyfarwydd yn helpu plant i beidio ofni'r rhywogaeth estronaidd. (About Time 1)

Crynodeb[]

Ar y blaned Fortis, mae'r Doctor, Ian, Barbara, a Vicki yn cael eu cymeryd gan stryffaglau'r Menoptera, rhywogaeth sydd yn edrych fel pili-pala, preswylwyr gwreiddiol y planet Fortis, cyn cafon nhw eu gorfodi i ffoi i'r lleuad Pictos i ddianc wrth yr Animws a'i gweithwyr, y Sarbi, sydd yn edrych fel morgrug, a'u arfau byw, y drylliau cynrhon.

Plot[]

The Web Planet (1)[]

I'w hychwanegu.

The Zarbi (2)[]

I'w hychwanegu.

Escape to Danger (3)[]

I'w hychwanegu.

Crater of Needles (4)[]

I'w hychwanegu.

Invasion (5)[]

I'w hychwanegu.

The Centre (6)[]

I'w hychwanegu.

Cast[]

Y Menoptera

  • Vrestin - Roslyn De Winter
  • Hrostar - Arne Gordon
  • Hrhoonda - Arthur Blake
  • Prapillus - Jolyon Booth
  • Hlynia - Jocelyn Birdsall
  • Hilio - Martin Jarvis

Yr Optera

  • Hetra - Ian Thompson
  • Nemini - Barbara Joss

Cast di-glod[]

  • Menoptera caethweisiol - Ken McGarvie
  • Gwarchodion Optera - Len Russell, Jane Bowman

Criw[]

  • Awdur - Bill Strutton
  • Cerddoriaeth thema - Ron Grainer
  • Dyn Camera Ffilm - Gitta Zadek
  • Golygydd Ffilm - Gitta Zadek
  • Golygydd Stori - Dennis Spooner
  • Dylunydd - John Wood
  • Cynhyrchydd - Verity Lambert
  • Cyfarwyddwr - Richard Martin
  • Symudiad Pryfed - Roslyn De Winter
  • Gwisgoedd - Daphne Dare
  • Colur - Daphne Dare
  • Goleuo - Ralph Walton
  • Sain - Ray Angel

Cyfeiriadau[]

  • Nid yw Vicki wedi clywed am aspirin, er iddi astudio meddyginiaeth, ffiseg a chemeg yn 10 mlwydd oed, awr yr wythnos, gan ddefnyddio peiriant.
  • Mae Ian yn meddwl bod y TARDIS wedi glanio ar y Lleuad yn gwreiddiol.
  • Mae gan y TARDIS siacedi dwysedd atmosfferig.
  • Mae Ian yn sôn am Golofn Nelson.
  • Mae'r Doctor yn defnyddio "hen dei Ysgol Coal Hill" i arbrofi pwll a darganfod mae'n asidig.
  • Mae'r Doctor yn rhoi bar siocled i Vicki.
  • Mae'r Menoptera yn defnyddio drylliau electron.

Nodiadau[]

  • Teitl gwreiddiol y stori oedd The Zarbi a'r teitl gweithredol oedd The Centre of Terror. Teitl gweithredol arall oedd The Webbed Planet.
  • Teitl gwreiddiol "The Centre" oedd "Centre of Terror". Adferodd y nofeleiddiad y teitl yma ar gyfer pennod chwech.
  • Cyflogwyd coreograffydd enwog Roslyn De Winter i greu symudiadau unigryw a llefaredd y Menoptera. Roedd ei gwaith mor llwyddiannus, gofynodd y tîm cynhyrchu iddi chwarae rôl y Menoptera Vrestin. Cynhywswyd credyd ar sgrîn arbennig ar gyfer De Winter, "Symudiad Pryfed gan...", yng nghredydau "The Zarbi" a "The Centre".
  • Credydwyd Roslyn De Winter (Vrestin), Arne Gordon (Hrostar), Arthur Blake (Hrhoonda), Jolyon Booth (Prapillus), Jocelyn Birdsall (Hlynia), a Martin Jarvis (Hilio) o dan y teitl "Y Menoptra". Credydwyd Roslyn De Winter fel "Menoptra Vrestin" yn "Escape to Danger".
  • Credydwyd Ian Thompson (Hetra) a Barbara Joss (Nemini) o dan y teitl "Yr Optera" am "Crater of Needles" ac "Invasion". Credydwyd Ian Thompson fel "Optera Hetra" am "The Centre".
  • Nid yw Jacqueline Hill yn ymddangos yn "Escape to Danger" gan gymerodd hi gwyliau yn ystod yr wythnos gafodd yr episôd ei ffilmio. O ganlyniad, ni dderbyniodd hi credyd ar yr episôd yma, felly cwynodd hi i'r tîm cynhyrchu am yr omisiwn, ond cafodd ei gofyniad am dderbyn credyd yng ngwerthiadau tramor y stori ei hanwybyddu. Serch hynny, derbyniodd hi gredyd am "Escape to Danger" yn Radio Times.
  • Ceisiodd Peter Purves am ran un o'r Menoptera, ond cafodd ei gwrthod gan Richard Martin, gyda'r rheswm o roedd ef llawer rhy talentog i chwarae bwystfil siwt-rwber. Serch hynny, addawodd Martin i gofio Purves pan roedd angen gymeriad dynol arno. Yn y pendraw, cafodd Purves ei gastio mewn dau rôl yn The Chase, yn chwarae dwy ran: y twrist Americanaidd, Morton Dill, yn "Flight Through Eternity", a'r cydymaith newydd Steven Taylor yn "Planet of Decision".
  • Crëwyd gwisg pob un o estronwyr y stori yma (ar wahâni'r Sarbi gan gafon nhw eu creu gan Shawcraft) gan Daphne Dare.
  • Yn gwreiddiol roedd gan y Sarbi yr abl i boeri gwenwyn.
  • Dewisodd William Russell gadael y gyfres yng nghanol cynhyrchiad y stori yma. Fe deimlodd roedd ei awyddusrwydd am y gyfres wedi cilio, ac roedd eisiau symud ymlaen i bethau newydd.
  • Er mwyn cyfleu atmosffêr tenau Fortis, defnyddiodd Richard Martin lens afluniad, gan roi'r ymddangosiad o ffilmio trwy jeli petroliwm.
  • Roedd rhaid i ffilmio "The Zarbi" rhedeg 16 munud drosodd, o achos pobl yn gwneud llanast o nifer fawr o linellau, pobl yn methu arwyddion, a phroblemau gyda gwisgoedd y Sarbi. Dileuwyd ffilmio "Escape to Danger" pan ddarganfodwyd nad oedd setiau'r stori wedi'u danfon i'r stiwdio cywir, a nid oedd llawr y Carsenome wedi'i paentio eto. Roedd problemau goleuo a chamera yn parhau i boeni'r cast flinedig, ac o ganlyniad roedd ffilmio'r stori tua 37 munud tu ôl. Dyma'r dydd, gan roedd gwisg y Sarbi yn gorchuddio gweledigaeth yr actor, rhedodd Sarbi i mewn i'r camera. Ond, achos roedd y cynhyrchiad yn gweithio gyda chyn lleied o amser, arhosodd y camgymeriad yn y stori terfynnol.
  • Credwyd y stori i fod ar goll yn dileuad 1970au'r BBC, ond darganfuwyd argraffiadau negyddol yn BBC Enterprises yn hwyr yn yr 1970au. Mae'n debygol daw'r argraffiadau yma wrth werthiad i Algeria yn 1973, ac o ganlyniad roedd gan episôd olaf y stori addasiad i gapsiwn "Episôd Nesaf" y stori i gynnwys cyfeiriad at The Space Museum yn lle "The Lion", gan ni werthwyd y stori olynol, The Crusade, i wledydd Mwslimaidd. Roedd hefyd rai golygiadau i dynnu'r parhad wrth The Romans. Darganfuwyd argraffiadau na chafodd eu golygu yn Nigeria yn 1985.
  • Er cerddoriaeth stoc yw'r cerddoriaeth achlysurol, mae'r cerddoriaeth yn rhyfeddol iawn. Wedi'u creu gan grŵp o'r enw Les Structures Sonorés a gynhyrchodd gerddoriaeth ar tiwbiau gwydr. Defnyddiwyd y cerddoriaeth eto am Galaxy 4.
  • Yn nofeleiddiad Bill Strutton mae digwyddiadau'r stori wedi'u gosod yn y flwyddyn 20,000. Nid yw'r gwybodaeth yma wedi'u cymryd wrth unrywbeth yn y stori deledu.
  • Hyd heddiw, dyma'r unig stori Doctor Who i beidio gynnwys unryw gymeriadau dynol yn ran o'r cast gwadd (nid oedd gan The Edge of Destrucion unryw cast arall y tu allan i'r actorion rheolaidd).
  • Mae teitl y pumed episôd, "Invasion", yn rhannu ei enw gyda rhan un TV: Invasion. Er symudodd y gyfres at deitlau stori gyfan yr adeg honno, crebawyd teitl episôd cyntaf y stori honno er mwyn cuddio'r ffaith roedd deinosoriaid yn y stori. Ond, cafodd y syndod yma ei sbwylo trwy luniau du a gwyn o pterodactyl yn rhestriad Radio Times.

Cyfartaleddau gwylio[]

  • "The Web Planet" - 13.5 miliwn
  • "The Zarbi" - 12.5 miliwn
  • "Escape to Danger" - 12.5 miliwn
  • "Crater of Needles" - 12.0 miliwn
  • "Invasion" - 12.0 miliwn
  • "The Centre" - 11.5 miliwn

Cysylltiadau[]

  • Er iddo honni nad yw wedi ymweld â Fortis o'r blaen, dyma pedwerydd ymweliad adnabyddus y Doctor. Yn flaenorol, aeth ef i Fortis yn PRÔS: The Last Ones, PRÔS: The Lair of the Zarbi Supremo, a COMIG: On the Web Planet. Bydd yr Ail Ddoctor yn dychwelyd i Fortis yn PRÔS: Twilight of the Gods. Bydd y Pedwerydd Doctor yn dychwelyd i Fortis yn COMIG: The Naked Flame. Dychwelodd y Pumed Doctor i Fortis yn SAIN: Return to the Web Planet. Yn gyfan gwbl, mae'r Doctor yn gwneud saith ymweliad adnabyddus i Fortis.
  • Yn ystod ei antur gyda'r Sarbi, Ian a Barbara, mae'r Doctor yn cael ei dynnu wrth amser am yr ail waith gan Dad Amser. (COMIG: The Test of Time)
  • Mae'r Gwyneb Boe yn cael ei ddynodi fel preswylydd hynaf y Galaeth Isop. (TV: Bad Wolf)
  • Mewn gwirionedd un o'r Hen Rai Fawr oedd yr Animws, un o niferoedd o greuaduriaid pwerus iawn a ddihangodd wrth fydysawd cynt trwy sifftio eu hun i mewn i fydysawd hwyrach, (PRÔS: All-Consuming Fire; SAIN: Black and White)
  • Mae Barbara yn gwisgo'r breichled rhodd Nero iddi. Nid oedd Vicki yn ymwybodol o ymweliad Barbara ac Ian i Rhufain, ac felly mae'n cwestiynnu hon. (TV: The Romans)
  • Bydd y Sarbi a'r Animws yn ymddangos yn Llundain yn y flwyddyn 1868, wedi cael eu tywys yno gan Adam Mitchell. (COMIG: Unnatural Selection)

Rhyddhadau cyfryngau cartref[]

Rhyddhadau DVD[]

Rhyddhawyd y stori yma ar DVD fel The Web Planet ar 3 Hydref 2005 (DU), ar 3 Tachwedd 2005 (Awstralia), ar 5 Medi 2006

Cynnwys:

  • Sylwebaeth sain gan William Russell, Verity Lambert, Richard Martin, a Martin Jarvis, wedi'u cymerdroli gan Gary Russell
  • Tales of Isop - Cast a chriw gwreiddiol y stori yma yn cofio cynhyrchiad y stori, yn cynnwys William Russell, Maureen O'Brien, Martin Jarvis, Verity Lambert, Richard Martin, John Wood a Sonia Markham.
  • The Lair of the Zarbi Supremo - William Russell yn darllen y stori sydyn wrth y Doctor Who Annual cyntaf.
  • Trac sain Sbaeneg - opsiwn i weld episôd 6 yn Sbaeneg.
  • Sleidiau Give-a-Show - set o sleidiau Doctor Who'r 1960au, wedi'u seilio ar The Web Planet.
  • Oriel
  • Isdeitlau cynhyrchu

Credydau'r cefn:

Rhyddhadau Blu-ray[]

Rhyddhawyd y stori yma ar Blu-ray yn y DU ar 5 Rhagfyr 2022, yn rhan o The Collection: Season 2.

Rhyddhadau Digidol[]

Mae'r stori ar gael:

  • i ffrydio ar BritBox (UDA) yn rhan o Gyfres 2 Doctor Who Clasurol.

Rhyddhadau VHS[]

Rhyddhawyd y stori yma fel The Web Planet ar ddau VHS gwahanol. Yn y DU, roedd gan y ddau gasèt dwy glawr wahanol, ond mewn llefydd eraill, defnyddiwyd un glawr enfawr. Rhyddhawyd y stori ym mis Medi 1990 (DU), ac ym mis Awst 1994.

Rhyddhadau sain[]

Rhyddhawyd trac sain y stori yma ar finyl gan Demon Records, gydag adroddawd gan Maureen O'Brien, ar 13 Rhagfyr 2019. Yn hwyrach, rhyddhawyd y stori ar CD gan BBC Audio ar 1 Hydref 2020.

Troednodau[]