Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who

The Wrong Doctors oedd stori rhif 169 yn ystod misol Big Finish Productions. Matt Fitton ysgrifennodd y stori a bortreadodd Colin Baker fel y Chweched Doctor a Bonnie Langford fel Mel Bush.

Crynodeb cyhoeddwr[]

Gyda Evelyn eisioes wedi gadael, mae'r Doctor yn anelu at ei dynged... o gwrdd â Melanie Bush am y tro cyntaf, rhaglennydd cyfrifiaduron o'r pentref Pease Pottage. Am nawr, mae hi'n ymarfer gyda'r cymdeithas ddrama lleol - yn anymwybodol mae ei dyfodol yn agosáu, yn ei TARDIS.

Mewn gwirionedd, dau TARDIS. Mae fersiwn iau o'r Doctor yn hedfan i Pease Pottage hefyd - yn dychwelyd ei gydymaith-i-ddod, Melanie Bush i'w cartref ar ôl iddynt cael eu rhoi at ei gilydd yn ystod ei treial.

Mae teithio amser yn waith gymleth - er enghraifft, yr iguandon sydd yn ymosod ar Pease Pottage. Ond faint mwy gymhleth ddaw popeth os byddai'r Doctor anghywir yn cwrdd y Mel anghywir?

Plot[]

I'w hychwanegu.

Cast[]

  • Y Doctor - Colin Baker
  • Melanie Bush - Bonnie Langford
  • Stapleton Petherbridge - Tony Gardner
  • Jedediah Thurwell - James Joyce
  • Mrs Wilberforce - Patricia Leventon
  • Vaneesh / Millicent / Christine Bush - Beth Chalmers
  • Ksllak - John Banks

Cyfeiriadau[]

Y Doctor[]

  • Pan mae'n sylweddoli bod ef wedi croesi llinell amser ei hun, mae'r Doctor yn lawen nad ymgorfforiad arall megis yr un gyda'r sgarff, y ffriliau, na seleri sydd yna.
  • Wrth gwrdd y Doctor iau, mae Mel yn credu ei bod ar fin ceisio ar gyfer Joseph and the Amazing Technicolor Dreamcoat.

Mel[]

  • Yn wyth mlwydd oed, dysgodd Mel enwau 150 rhywogaeth o ddeinosor wahanol, o ganlyniad, mae modd iddi adnabod yr iguandon yn syth.
  • Ganwyd Mel yn 1964.

Diwylliant o'r byd go iawn[]

  • Ar ôl i'r dau fersiwn o Mel yn derbyn yr enwau "Mel A" a "Mel B", mae jociau am y Spice Girls (a wnaeth gynnwys yr aelodau Mel B a Mel C) yn dechrau, gan gynnwys chwarae ar eiriau teitl y gân Spice Up Your Life.

Lleoliadau[]

  • Mae Pease Pottage mewn poced o amser seredig, wedi'i ymwahanu wrth weddill amser.

Pobl[]

  • Ganwyd Stapleton Petherbridge ym Mhease Pottage yn 1758. Ymunodd â'r Llynges Frenhinol yn 1810 a bu farw yn Rhyfel 1812. Cafodd ei feddiannu gan gythraul amser.
  • Ganwyd Jedediah Thurwell yn 1812. Danfonwyd i Victoria, Awstralia. Yno, fe gyfarfodd â menyw o'r enw Patsy. Yn ddiweddarach, fe priodon nhw a chafon nhw pedwar plentyn ac un deg pump wyrion. Bu farw ar ei fferm yn 1884, yn 71 blwydd oed.
  • Cafodd Muriel Wilberforce ei geni yn 1884. Priododd ei gŵr, Francis Wilberforce, yn 1910, a ganwyd ei fab, Francis Wilberforce Jr. yn 1912. Lladwyd ei gŵr yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914. Yn dilyn yr Ail Rhyfel Byd, parhaodd hi i weithio yn swyddfa bost Pease Pottage yn bell gerllaw oedran ymddeol. Hi oedd cadeires Sefydliad y Merched Pease Pottage o 1922 i 1964, yn hirach nac unrywun arall yn hanes y sefydliad. Bu farw yn 1964, 80 oed. Yn ystod y 1980au, ei hŵyr, Martin Wilberforce oedd yn rhedeg y swyddfa post.

Nodiadau[]

  • Dyma ymddangosiad cyntaf Bonnie Langford fel Melanie Bush mewn stori sain Big Finish ers The Vanity Box yng Nghorffennaf 2007. Hefyd, mewn ffordd, dyma'r stori gyntaf o ran cronoleg ei chymeriad ym mydysawd Doctor Who.
  • Recordiwyd y stori ar 1 a 2 Mai 2012 yn The Moat Studios.
  • Mae gan stori tebygolrwydd i ail stori Sapphire and Steel, gyda bodolaeth yn gwneud cyntundeb gyda pobl marw ac yn newid amser.
  • Rhyddhaodd Big Finish episôd gyntaf y stori fel podlediad cyn rhyddhad swyddogol y stori.
  • Mae clawr y stori yma yn defnyddio fersiwn newydd o logo Doctor Who, sydd ag ymddangosiad tebyg i teitlau agoriadol cyfnod William Hartnell. Roedd y logo hon eisioes wedi cael ei ddefnyddio ar ddarnau o farchnadbethau eraill Doctor Who.

Cysylltiadau[]

  • Yn y llinell amser personol y Doctor hyn, mae Evelyn Smythe newydd gadael y TARDIS i briodi Justice Rossiter ar Világ. (SAIN: Thicker than Water)
  • Cyfeiriad Mel yw 36 Downview Crescent, Pease Pottage. (PRÔS: Business Unusual, SAIN: The Juggernauts)
  • Mae Mel yn dweud wrth y Doctor iau ei bod hi fod cyfarfod Doctor ei dyfodol ar Oxyveguramosa. (PRÔS: Business Unusual)
  • Mae'r Doctor iau yn diolch i Mel am dystio ar ei ran yn ystod ei dreial. (TV: The Ultimate Foe)
  • Mae'r Doctor iau yn nodi bod y Doctor hyn yn gwisgo lliwiau galar Necros, sef glas. (TV: Revelation of the Daleks)
  • Mae'r Doctor iau yn defnyddio chwiban ci K9 Math II i reoli'r Baryonyx. (TV: The Ribos Operation)
  • Mae'r Doctor yn cofio cwrdd Harry Houdini. Cyn cyrraedd 1963, cyfarfodd y Doctor Cyntaf a Susan Foreman Houdini yn yr Unol Daleithiau. Dysgodd Houdini i'r Doctor sut i berfformio twyllau llaw. (PRÔS: The Sorcerer's Apprentice)
  • Mae'r Mel hyn yn sôn am gael gwersi ddawnsio gyda Miss Fairs (PRÔS: Business Unusual) ac ymweld yr amgueddfa gyda'i ewythr John Hallam (SAIN: Catch-1782) yn ystod ei phlentyndod.
  • Wrth i'r Mel iau marw, mae hi'n cyffaddeb i'r Doctor hyn bod gwell ganddi ei gôt amryliw. Mae'r Doctor yn addo i wisgo'r côt unwaith eto. (TV: Terror of the Vervoids)
  • Mae'r Doctor henach yn cynghori'r Doctor iau i adolygu ei hanes ac i ymweld â Phrifysgol Sheffield Hallam. (SAIN: The Marian Conspiracy)
  • Mae Petherbridge yn cyfeirio at Fortisoriaid (SAIN: Storm Warning), Amserysyddion (TV: The Time Monster) a Pantoffagens (SAIN: The Foe from the Future).
  • Mewn llinell amser eiledol, cymharodd Ace y Chweched Doctor i Joseph wrth Joseph and the Amazing Technicolor Dreamcoat hefyd. (SAIN: Light at the End)
  • Mae'r Doctor hyn yn profi ei hunaniaeth i'r Doctor iau trwy gysylltiad telepathig. (TV: The Three Doctors, ayyb)
  • Mae gan Mel gof eidetig. (TV: Terror of the Vervoids SAIN: Spaceport Fear)

Dolenni allanol[]