Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

The Zygon Inversion oedd wythfed episôd Cyfres 9 Doctor Who.

Deliodd yr episôd gyda chysyniad o ryfel a'u canlyniadau. Fel mae'r Doctor yn esbonio, does dim ots ar sawl bywyd sy'n cael eu colli, mae o hyd yn gorffen gan y ddau ochr yn eistedd i lawr am drafodaethau. Hefyd, darluniodd yr episôd y Deuddegfed Doctor yn disgrifio'i boen wrth ymladd yn y Rhyfel Amser mewn araith llawn dicter ac emosiynnau am y tro cyntaf ers darganfododd ei rhagflaenydd bod y Doctor Rhyfel heb ddinistrio Galiffrei yn The Day of the Doctor.

Ni ymhelaethodd yr episôd ar os taw yr Osgood dynol neu Seigon oedd dal i fyw, yn lle cael Bonnie llenwi'r gwacter fel amnewidiad i'r dwbl a gafodd ei lladd gan Missy yn Death in Heaven. Esboniodd Osgodd mae modd iddi bod naill fersiwn; does dim rhaid i'r Seigonau cadw'r person gwreiddiol yn fyw os nad oes angen ar eu cof. Mewn fideo yn y cefn, datgelodd Ingrid Oliver, a chwaraeodd Osgood, ei bod hi wedi dewis pa un o'r Osgoods gwreiddiol sydd ar ôl, ond cadwodd ei dewis yn gyfrinach.

Crynodeb[]

Gyda grŵp ysgyren y Seigonau wedi trechu'r Doctor, dim ond un peth pellach sydd yn eu hatal rhag dileu dynoliaeth a chymryd y Ddaear am eu hun: penbleth moesol!

A yw Bonnie yn parod i ddinistrio'r heddwch oedd eisioes mewn lle, i gyd er mwyn i'r Seigonau byw heb cuddio, hyd yn oed os byddai hyn yn creu gelynion allan o ddynoliaeth ac hil ei hun hefyd?

Plot[]

I'w hychwanegu.

Cast[]

Cast di-glod[]

  • Llais y Seigonau:[3]
    •  Nicholas Briggs
  • Heddwas 1:[4]
    • Ben Nash
  • Heddwas 2:[4]
    • Jon Davey

Cyfeiriadau[]

  • Gwelwyd Spooner Minicabs.
  • Gwelwyd Placentini's barber shop.
  • Gwelwyd adroddiad BBC News.

Lleoliadau[]

  • Ymwelwyd â Fleet Estate Centre.
  • Galwyd y fflatiau mae Etoine yn byw ynddi yn Meelfe House.

Y Doctor[]

  • Mae'r Doctor yn jocio wrth Osgood fod ei wir enw yw "Basil".
  • Mae'r Doctor yn rhoi'r sylw, oherwydd ei fod dros 2000 blwydd oed, mae ef digon hen i fod yn Meseia i Bonnie.
  • Mae'r Doctor yn dianc rhag yr awyren mewn parasiwt gyda Baner y Deyrnas Unedig arno fe.
  • Unwaith, dyfeisiodd y Doctor Oriawr anweladwy gyda nam amlwg.
  • Mae gan y Doctor hanes pori ar ei sbectol haul sonig, a fe gynghorodd i Osgood i beidio edrych ato.
  • Mae Osgood yn nodi os ceisiodd hi i ladd y Doctor, byddai hi yn ei wneud yn gloi wrth ei saethu yn ei ben, deuddeg gwaith os oedd angen, cyfeiriad at ei gylch atfywiad.

Clara[]

  • Mae gan Clara mynediad dilyffeithair i'r Archif Du, un o llond llaw o unigolion gyda'r fraint hon.
  • Mae Clara yn ymwybodol o'r Blwch Osgood, a'r ffaith bod dau Osgood.
  • Mae Clara yn dangos digon o ewyllys i gael rheolaeth dros weithredoedd Bonnie, hyd yn oed achosi'r Seigon i golli ffurf dynol am amser byr.

Osgood[]

  • Datgelwyd taw enw cyntaf Osgood yw Petronella.

Seigonau[]

  • Mae gan y Seigonau dyfais cyfathrebu sydd yn debyg i ffôn.

Bonnie[]

  • Mae'r Doctor yn cymharu Bonnie i blentyn yn strancio.
  • Mae'r Doctor yn rhoi'r llysenw "Zygella" i Bonnie.

Gwrthdaro[]

  • Mae'r Doctor yn nodi bod rhyfel posib Bonnie yn gêm wrth ei gymharu i raddfa'r Rhyfel Amser.

Cyfeiriau diwylliant[]

  • Mae'r Doctor yn dynwared acen Americanaidd, gan bersonadu cyflwynydd sioe gêm.
  • Mae bocs sydd yn cynnwys cyfrinach sydd ond yn cael ei datgelu ar ôl i'r chwareuwyr dewis pa botwm i gwasgu oedd elfen o'r gêm Truth or Consequences go iawn.

Nodiadau[]

  • Ar yr un dydd â'r episôd blaenorol, cafodd awyren ei fomio allan o'r awyr mewn ffordd tebyg iawn i'r cliffhanger. O ganlyniad, roedd Peter Harness, awdur yr episôd, yn pryderu am os byddai ail rhan y stori yn cael ei gohirio.
  • Gall Clara a Bonnie cael eu gwahaniaethu trwy eu gwallt. Mae gwallt Clara o hyd i lawr, tra mae gwallt Bonnie o hyd i fyny.

Cyfartaledd gwylio[]

  • BBC One dros nos: 4.13 miliwn
  • BBC America dros nos: i'w hychwanegu
  • Cyfartaledd DU terfynnol: 6.03 miliwn

Lleoliadau ffilmio[]

  • Maelfa Shopping Centre, Llanederyn, Caerdydd
  • Watchtower Bay
  • Canal Park Childrens Playground, Canal Park, Caerdydd

Gwallau cynhyrchu[]

  • Pan Mae'r Doctor, Clara ac Osgood yn cyrraedd y TARDIS, mae'r Doctor yn sefyll cwpwl o droedfeddi i fwrdd ohono. Yn yr olygfa nesaf, mae'n sefyll ar ei bwys.
  • Pryd mae clawr y pot yn cael ei godi, mae modd gweld bod gwallt Clara yn llanast, er pan mae'r Doctor yn siarad gyda Bonnie a Kate, mae ei gwallt yn daclus.

Cysylltiadau[]

  • Mae peintiad o'r Doctor Cyntaf yn Nhŷ Diogel UNIT yn agor i sêff. (TV: The Zygon Invasion)
  • Yn ei breuddwyd, mae Clara yn clywed geiriau olaf Bonnie cyn iddi saethu'r taflegryn, gan gynnwys sain y taflegryn yn cael ei saethu. (TV: The Zygon Invasion)
  • Mae Kate Stewart yn egluro roedd modd iddi ddianc rhag y Seigon trwy danio "five rounds rapid", ymadrodd defnyddiodd ei thad yn aml. (TV: The Dæmons ayyb)
  • Mae'r Doctor, unwaith eto, yn defnyddio ei iPhone. (TV: The Zygon Invasion) Ar un adeg, fe ddefnyddiodd Facetime i gyfathrebu gyda Bonnie. (TV: Before the Flood)
  • Ffrwydrwyd Boat One am eilwaith. (TV: Death in Heaven)
  • Gwyliodd Bonnie y fideo ffilmiodd yr Osgoods. (TV: The Zygon Invasion)
  • Mae'r llawfeddyg llyngesol a greuodd y nwy gwrth-Seigon, Z-67, yn cael ei enwi fel Sullivan. (TV: Terror of the Zygons, The Zygon Invasion) Mae'r Doctor yn ei alw'n "imbecile", term defnyddiodd ei bedwerydd ymgorfforiad hefyd. (TV: Revenge of the Cybermen)
  • Mae Clara'n pryfocio Bonnie i'w lladd gan ddweud "go on, then" pan mae Bonnie'n ei bygwth. Gwnaeth hi'r un peth gyda'r Dyn Gwyneb-Hanner, tric dysgodd hi wrth Courtney Woods. (TV: Deep Breath)
  • Mae Clara'n honni ei bod hi'n wych am ddweud celwydd. (TV: Death in Heaven)
  • Mae'r Archif Du yn cael ei ailymweld â, ac mae'r dileuwr-cof yn cael ei ailgychwynnu. Crybwyllwyd ddechreuad y cytundeb heddwch hefyd. (TV: The Day of the Doctor)
  • Gall helmed ymladd Mire cael ei weld yn yr Archif Ddu. (TV: The Girl Who Died)
  • Mae'r Doctor yn hel atgofion o'i brofiadau yn y Rhyfel Mawr Olaf Amser. Yn ychwanegol, mae'r Blychau Osgood wedi'u seilio'n uniongyrchol ar y Foment er mwyn adlewyrchu dewis anodd Doctor Rhyfel, a sut stryffaglodd ef i beidio defnyddio ei photensial dinistriol. (TV: The Day of the Doctor)
  • Mae'r Doctor yn nodi ei fod dal i glywed sgrechian dioddefwyr pan mae'n cau ei lygaid. Cafodd Kahler-Jex ei effeithio gan ei orffennol yn yr un ffordd. (TV: A Town Called Mercy)
  • Mae Clara yn gwneud "gwiriad breuddwyd" er mwyn gwirio cyflwr ei realiti pan mae'n codi. (TV: Last Christmas)
  • Mae un Osgood yn gwisgo union copi o wisg y Seithfed Doctor. (TV: The Curse of Fenric)

Rhyddhadau cyfryngau cartref[]

Rhyddhadau DVD a Blu-ray[]

  • Rhyddhawyd yr episôd yn rhan o Doctor Who: Series 9: Part 2 ar 4 Ionawr 2016.
  • Yn hwyrach, rhyddhawyd yr episôd fel rhan o set bocs DVD, Blu-ray ac fel Steelbook o Doctor Who: The Complete Ninth Series ar 7 Mawrth 2016.

Troednodau[]

  1. Mae Coleman hefyd yn chwarae Bonnie wrth iddi dynwared Clara.
  2. Mae Oliver yn chwarae'r ddwy aelod dynol a Seigon gwreiddiol oedd rhan o Gweithrediad Dwbl yn y negeseuon fideo. Yn ychwanegol, chwaraeodd hi Bonnie ar ôl iddi troi'n aelod newydd o Weithrediad Dwbl.
  3. DWMSE 42
  4. 4.0 4.1 TCH 82