Thin Ice oedd trydydd episôd cyfres 10 Doctor Who.
Mae digwyddiadau'r stori yma yn dilyn yn uniongyrchol wrth ddigwyddiadau Smile, gyda'r TARDIS yn cyrraedd Llundain eiliadau ar ôl iddynt gadael y blaned wladfa ddynol.
Yn debyg i Cold Blood a Kill the Moon, mae'r Doctor yn gwrthod wneud rhywbeth a fyddai'n newid hanes y Ddaear ar ben ei hun, gan orfodi ei gydymaith i benderfynu'n lle. Yn wahanol, y tro yma, mae'r Doctor yn aros i ddarparu cymorth a chyngor yn lle gadael ei gydymaith i ddewis ar ei phen ei hun.
Crynodeb[]
Yn ceisio dychwelyd i'r prifysgol cyn i Nardole sylwi ar y ffaith ei fod ef wedi diflannu, ar ddamwain mae'r Doctor yn glanio ei hun a Bill yn y gorffennol, yn y ffair rhew olaf yn 1814. Serch hynny, mae'r Doctor yn penderfynnu defnyddio'r cyfle i gael hwyl.
Ond, mae rhywbeth erchyll yn llechian o dan yr Afon Tafwys rhewedig.
Plot[]
I'w hychwanegu.
Cast[]
- Y Doctor - Peter Capaldi
- Bill - Pearl Mackie
- Nardole - Matt Lucas
- Sutcliffe - Nicholas Burns
- Kitty - Asiatu Koroma
- Dyn-Pastai - Peter Singh
- Goruchwyliwr - Simon Ludders
- Dowell - Tomi May
- Spider - Austin Taylor
- Dottie - Ellie Shenker
- Harriet - Kishaina Thiruselvan
- Perry - Badger Skelton
Cast di-glod[]
|
|
|
Cyfeiriadau[]
Diwylliant[]
- Mae'r Doctor yn siarad am wyngolchiad hanes ar ȏl i Bill sylwadu ar y ffaith bod mwy o bobl ddu nag ddangodwyd mewn ffilmiau, yn defnyddio Iesu Grist fel enghraifft.
- Mae'r ffair rhew yn digwydd ar yr Afon Tafwys rhewedig.
- Defnyddir map o Lundian o'r 19eg ganrif gan y TARDIS.
- Mae'r Doctor yn darllen Struwwelpeter i'r amddifaid.
- Wrth geisio darganfod gwybodaeth am y ffair rhew, mae'r Doctor yn ddangos yr Archifau Papur Newydd Brydeinig i Bill.
Bioleg[]
- Mae Bill yn cyfeirio at felanin ei chroen.
Technoleg[]
- Mae Spider yn dwyn sgriwdreifar sonig y Doctor, rhywbeth wnaeth Bill galw'n "hudlath". Yn dilyn pwysau wrth Bill, mae'r Doctor yn cyffaddeb mae'n sgriwdreifar mewn "synwyr eang", ac mae'n sonig achos "mae'n chynhyrchu sain".
- A ffrwydrydd wedi'i gysylltu i fareli ffrwydrol.
- Mae'r sgriwdrefar sonig y Doctor yn gweithio dan-ddŵr.
- Mae'r Doctor a Bill yn gwisgo siwtiau blymio.
Gwyddoniaeth[]
- Mae Bill yn meddwl maent wedi teithio i fyd paralel.
- Yn ôl y Doctor, mae reslo gwir yn cynnwys diffyg ddisgyrchiant gyda thentaclau a hud.
- Yn y mhlas Sutcliffe, mae'r Doctor yn chwarae gyda planediadur.
Arian[]
- Mae'r ffair rhew ond yn costio chwe cheiniog am fynediad.
Bwydydd a diodydd[]
- Mae rhywun yn gollwng basged o ffrwythau a llysiau ar yr Afon Tafwys ar ddamwain.
- Mae gwerthwr yn gwerthu cnau castan ar y grisiau uwchben y ffair.
- Mae'r Doctor yn dwyn pasteiod pysgod wrth dwyllwr.
- Mae Nardole yn ychwanegu coffi i de er mwyn adio blas.
- Mae gan Sutcliffe bowlen o nectarinau, gellyg, clementinau, grawnwin ac afalau.
- Ym mhlas Sutcliffe, mae'r amddifaid yn derbyn cinio Nadolig traddodiad, yn cynnwys twrci, salad, tatws, grefi, brocoli, bresych goch, a phwdin Nadolig gyda gwydraid laeth.
- Hoff fwyd y Doctor yn y ffair rhew yw darn o offal ar sgiwer.
Rhywogaethau[]
- Roedd pysgod denu yn nofio yn yr Afon Tafwys, yn denu pobl gyda'u golau gwyrdd i ardaloedd clwydion, er mwyn eu trapio dan-ddŵr i fwydo'r creadur.
- Mae'r Doctor yn sôn am bryfed tân a magïod.
- Defnyddiwyd ysgarthiad y sarff gan weision Sutcliffe fel tanwydd.
Pobl[]
- Mae'r Doctor yn jocio gyda Bill am dyn dychmygol o'r enw "Pete", a gamodd ar löyn byw felly cafodd ei ddileu wrth hanes.
- Ar y dynion ddŵr yw'r cyfrifroldeb o gadw ffair yn drefnus.
- Mae Bill yn dweud bod hi'n bencampwraig sgitls ar ddau flwyddyn olynol.
- Mae Sutcliffe yn hilyddol a rhywiaethol.
- Mae Sutcliffe wedi cyflogi treillwyr.
- Mae gan y gweithdy prif-dreilliwr.
- Mae gan Sutcliffe haearn isel.
- Mae gan y weithdy goruwchwyliwr i rheoli'r gwaith.
- Mae gan Sutcliffe was.
- Mae Sutcliffe yn croesawu'r Doctor o dan y teitl "Doctor Disco, wrth Glwb Fairford".
- Mae'r Doctor yn cyfeirio at y sarff fel: "bach", "bwystfil loch-less" a'r "môr-forwyn dim mor bychain".
Lleoliadau[]
- Mae'r TARDIS yn glanio ar Bont Blackfriars, nesaf i New Lime Wharf. Mae'r ffair yn ymestyn o Blackfriars nes Pont Llundain.
- Mae'r Doctor a Bill yn mynd tuag at Freezeland Street.
- Mae Kitty yn pryderu bydd y Doctor yn cymryd hi a'r amddifaid eraill i'r Ynad.
- Mae'r gweithdy Sutcliffe wedi'i leoli ar yr Afon Tafwys, lle gweithia ei weithwyr gyda ysgathiant y sarff.
- Mae Bill yn poeni bydd y sarff yn bwyta pobl wrth South Bank a hanner Llundain a os ydynt wedi dihenu yr Ynys Las.
- Yn ôl y papur seicig, mae'r Doctor yn gweithio am Balas San Steffan. Mae'r Doctor yn rhoi sywad nad yw ef wedi clywed hwnnw am adeg hir.
Nodiadau[]
- Mewn cyfweliad, cellweiriodd Steven Moffat bod agoriad Eastenders am sarff enfawr, cyfeiriad at sut mae siâp yr Afon Tafwys yn edrych fel sarff o uwchben.
- Spider yw un o'r unig blant i gael ei ladd ar-sgrîn yn hanes Doctor Who.
- Am saethiadau o'r Doctor yn cwmpo o dan y iâ, defnyddiwyd model 1/3 maint wedi'i ysbrydoli gan effaith debyg yn ffilm James Cameron, The Abyss. Er mwyn creu pen Capaldi, gwahoddwyd Stephen Mansfielld i'r cynhyrchiad. Gweithiodd Mansfield yn flaenorol ar y gyfres yn ystod cyfnod Sylvester McCoy, a greodd creuaduriaid megis Y Dinistriwr a'r Haemovores.
- Mae rhybudd Kitty tuag at Spider am sut byddent yn cael eu mudo os daliant yn crybwyll at sut fyddai Lloegr yn mudo carcharorion i Awstralia.
Cyfartaleddau gwylio[]
Cysylltiadau[]
- Mae'r Doctor a Bill yn glanio ar yr Afon Tafwys rhewedig, gydag eliffant yn o'u blaen. (TV: Smile)
- Ymwelodd y Doctor â Ffair Rew 1814 gyda'i wraig River Song, gan ddod â Stevie Wonder yno i perfformio. (TV: A Good Man Goes to War) Mae hefyd yn cofio ymweld â'r ffair cwpl o weithiau arall. (SAIN: Frostfire, PRÔS: The Frozen)
- Mae'r Doctor yn rhoi cyfarwyddiadau tebyg i Bill am sut i ddod o hyd i wardrob y TARDIS â'r cyfarwyddiadau rhodd y Nawfed Doctor i Rose Tyler. (TV: The Unquiet Dead)
- Mae Bill yn poeni byddai'n cael ei chaethiwo oherwydd lliw ei chroen. Lleisiodd Martha Jones pryderon tebyg i'r Degfed Doctor yn Llundain 1599. (TV: The Shakespeare Code) Ond, y tro hon, mae'r Doctor yn dangos cydymdeimlad am bryderion ei gydymaith.
- Mae Bill yn poeni am yr effaith pili-pala, yn union fel Martha yn ei hymweliad cyntaf i Lundain. (TV: The Shakespeare Code)
- Pan maent yn cyrraedd y presennol o 2017, mae Bill yn meddwl eu bod wedi teithio i fyd paralel. (TV: Inferno, Rise of the Cybermen)
- Mae'r Doctor yn atgoffa Bill o'i phrofiad â farwolaeth gyda'u hymweliad â gardd llawn sgerbydau. Mae'n cadarnhau digwyddodd hon oriau yn gynharach. (TV: Smile)
- Mae'r Doctor yn atgoffa Bill mai ef yw ei thiwtor. (TV: The Pilot)
- Mae'r Doctor yn sylwi unwaith eto yr arferiad dynoliaeth o anghofio pethau rhyfeddol. (TV: Remembrance of the Daleks, In the Forest of the Night)
- Mae Nardole yn atgoffa'r Doctor am ei addewid i beidio gadael y Ddaear. (TV: Pilot, Smile)
- Mae Nardole yn sôn am gael ei ailadeiladu. (TV: The Husbands of River Song, The Return of Doctor Mysterio)
- Mae'r Doctor unwaith eto yn crybwyll ei oedran o 2,000 flwydd oed. (TV: Deep Breath, Smile)
- Mae'r Doctor yn siarad am sut mae'r opsiynau wedi'u cyfyngu weithiau, gan ddechrau ddweud rhywbeth am ddewisiadau, yn crybwyll esboniad rhodd i Clara. (TV: Mummy on the Orient Express)
- Mae Bill yn gofyn os yw'r Doctor yn becso am bobl yn marw; roedd gan Psi yr un pryderion am natur oeraidd y Doctor. (TV: Time Heist)
- Mae Sutcliffe yn cyfeirio at y Doctor fel "Doctor Disco". (TV: The Zygon Invasion)
- Yn dilyn dychwelyd i swyddfa'r Doctor, mae Bill yn rhoi sylwad am sut mae popeth yn ymddangos yr un peth, o'r cwpan o hen sonics, frân pren, a'r lluniau, i'r llyfrau, pelddelwau a lleoliadau'r cadeiriau. (TV: The Pilot)
- Mae Bill yn defnyddio search-wise.net i ymchwilio i ddigwyddiad y sarff. Defnyddiodd Rose Tyler yr un wefan i ymchwilio'r Nawfed Doctor. (TV: Rose)
- Mae Nardole yn gwirio'r Gromgell. (TV: The Pilot)
- Mae'r Doctor unwaith eto yn rhoi cyfrifoldeb ar ei gydymaith i ddewis os ddylai creuadur fyw neu beidio. (TV: The Beast Below, Kill the Moon)
Rhyddhadau cyfryngau cartref[]
Rhyddhadau DVD a Blu-ray[]
- Rhyddhawyd Thin Ice yn rhan o Doctor Who: Series 10: Part 1 ar 29 Mai 2017.
- Rhyddhawyd yr episôd wedyn gyda gweddil episodau Cyfres 10 ar DVD, Blu-ray a Steelbook ar 13 Tachwedd 2017 fel Doctor Who: The Complete Tenth Series.
Troednodau[]
|