Y Trydydd ar Ddegfed Doctor oedd ymgorfforiad benywaidd cyntaf hysbys yr Arglwydd Amser a weithredodd o dan yr enw y Doctor. Yn ganlyniad o sefydliad olaf ei rhagflaenydd am garedigrwydd, credodd yr ymgorfforiad hon mewn gobaith gan ymarfer trugaredd ac rhoi cymorth i bwy bynnag oedd ei angen.
Bywgraffiad[]
Dyddiau'r dyfodol[]
Wrth gyfarfod â "Pili-pala'r Fortecs", dywedwyd i'r Degfed Doctor ni fyddai yn cael ei rwystro i un deg tri bywyd. (COMIG: Vortex Butterflies)
Pan dorrodd y Deuddegfed Doctor ei fys traed, awgrymodd Clara Oswald ddylai'r Doctor adfywio er mwyn gwella ei anaf. Atebodd y Doctor byddai'n gwastraff o'i egni adfywio. (PRÔS: The Blood Cell)
Tra'n dioddef annwyd, gorymatebodd y Deuddegfed Doctor, gan ystyried angen adfywio. (COMIG: The Day at the Doctors)
Yn dilyn dianc rhag ei Ddeial Cyffes, wynebodd y Deuddegfed Doctor Rassilon ar Galiffrei. Ystyriodd Rassilon defnyddio ei gawntled i orfodi'r Doctor i adfywio fel dull artaithio, rhyfeddodd hefyd faint o adfywiadau rhodded i'r Doctor, fe gaeth Rassilon ei rwystro cyn oedd modd iddo defnyddio ei gawntled. (TV: Hell Bent)
Wedyn ymosodiad y Mynachod, roedd angen ar y Deuddegfed Doctor i wybod os oedd ei gydymaith, Bill Potts, dan y rheolaeth y Mynachod. Twyllwyd hi i mewn i saethu'r Doctor er mwyn gweld os ildiodd Bill i'r rheolaeth meddwl. I gwblhau'r rhith, rhodded blanciau ym mhob dryll, a ffugiodd y Doctor ei adfywiad, gan esgus ddechreuad y broses o adfywiad, cyn gorffen y broses fel ei hun er mwyn ddangos iddi taw twyll oedd popeth. (TV: The Lie of the Land)
Ei chorff newydd[]
Pan gaeth y Deuddegfed Doctor ei glwyfo'n ddifrifol gan Cyberman Mondasiaidd ar eu llong ofod gwladfaol, cychwynodd y broses o adfywio. Ond, wedi blino gyda pharhau i "fod yn rhwyun arall" gohiriodd y Doctor ei adfywiad am bythefnos. (TV: The Doctor Falls) Wedyn cyfarfod â'i ymgorfforiad cyntaf, Archibald Hamish Lethbridge-Stewart, a Testimony, cyfaddodd y Doctor ni fyddai adfywiad ychwanegol yn lladd neb. Yn dilyn cymryd edrychiad olaf ar y bydysawd a rhoi bach o gyngor i'w ymgorfforiad nesaf, adfywiodd y Deuddegfed Doctor tu mewn y TARDIS mewn modd ffrwydrol. (TV: Twice Upon a Time)
Teithiau cynnar gyda Team TARDIS[]
Cymrodd y Doctor ei ffrindiau i weld Rhaeadr Caneuoedd oedd wedi'i wneud allan o grisialau pinc, cysegr uncorn ar leuad coll, y Clec Fawr (PRÔS: The Good Doctor) a throfannau ar i fyny Kinstarno ar gyfer ymdrochi glaw. (TV: The Tsuranga Conundrum)
Edrychiad[]
Edrychodd yr ymgorfforiad hwn yn debyg i fenyw yng nghanol ei thri degau, gyda gwallt golau i'w gên a gwreiddiau tywyll, a roedd ganddi llygaid lliw cyll. (TV: Twice Upon a Time)