Wici Cymraeg Doctor Who
Register
Advertisement
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

Under the Lake (Cy: O Dan y Llyn) oedd trydydd episôd Cyfres 9 Doctor Who.

Gwelodd y stori dychweliad i'r cysyniad o ysbrydion, gyda'r stori olaf i archwilio'r cysyniad oedd Hide yn 2013. Mae'r stori hon yn cynnig esboniad arall am ysbrydion, y tro hwn fel lledaenydd yn agos at signal estronaidd. Parhaodd yr episôd y thema o'r Doctor yn gwynebu ei farwolaeth, gyda diwedd yr episôd yn hawlio cyfle arall i'r Doctor myfyrio ei farwoldeb.

Crynodeb[]

Gan gyrraedd sefydliad tanddŵr o dan ymosodiad, bydd rhaid i'r Deuddegfed Doctor a Clara achub y criw ofnus. Ond, yno hefyd mae llong ofod estronaidd, ac mae'r sefydliad wedi'i aflonyddu gan rywbeth amhosib.

Mae credydau'r Doctor wedi'u herio wrth iddo cwrdd â rhywbeth nid oes esboniad i. A yw'n bosib? A oes modd i ysbrydion bodoli?

Plot[]

I'w hychwanegu

Cast[]

Cyfeiriadau[]

Cyfundrefnau[]

  • Mae pobl yn sôn am y Weinyddiaeth Amddiffyn a'r Fyddin Prydeinig.
  • Vector Petroleum yw'r cwmni sydd bua'r Drum.
  • Mae UNIT yn parhau i fodoli. Mae'r Doctor yn dynodi ei Visa cymhendod UNIT fel 7-1-0-Apple-0-0, digon i'w hadnabod.
  • Mae personél y Drum yn cyfeirio at eu cyd-weithwyr ywchlaw fel "Topside".
  • Drum Control yw man rheoli gweddill y Drum.

Y Doctor[]

  • Mae'r Doctor yn defnyddio cardiau awgrym er mwyn ymddiheuro.
  • Unwaith trodd y Doctor ei radio i mewn i wiwer clockwaith.

Astronomeg[]

  • Mae'r Doctor yn siarad am Nifwl Orïon, Orïon, Rigel a Betelgeuse.
  • Mae'r ysbrydion yn cyfeirio at gleddyf Orïon.

Technoleg[]

  • Mae'r ysbrydion yn cysylltu â llong danfor trwy gôd Morse.
  • Mae gawell Faraday gan y Drum, ac ar ôl ei gloi, nid oes modd i'r ysbrydion cael gadael neu mynd i mewn i'r gawell.
  • Mae'r Doctor yn cyfeirio at hologramiau.
  • Mae modd i'r sbectol haul sonig cysylltu â Wi-Fi.
  • Mae siambr cynnal yn cael ei ddarganfod o dan y ddŵr.
  • Mae'r Doctor yn dweud doedd erioed siẁd peth â sanau, ffonau clyfar neu foch daear, nes oeddent yn bodoli.

Unigolion[]

  • Mae'r Doctor yn honni ei fod wedi cwrdd â Shirley Bassey.
  • Yn ôl y Doctor, wnaeth Clara dadlau unwaith gyda Gandhi.
  • Mae Clara yn cyfeirio at bobl gyda gyddfau hir sydd wedi bod yn dathlu'r blwyddyn newydd ers dwy ganrif.

Ieithoedd[]

  • Nid oes modd i'r Doctor deall Iaith Arwyddion Prydain pellach. Mae'n credu ei fod wedi'i dileu, er mwyn cael semaffor yn lle. Serch hynny, mae'n arwyddo "rwyt ti'n brydferth" yn fanwl gywir i Cass wrth geisio cyfathrebu gyda hi (er iddo credu ei fod yn arwyddo "cer ati").

Bwydydd a Diodydd[]

  • Mae paned o goffi ar y bwrdd; mae modd i'r Doctor rhifyddu pa mor hir mae wedi bod yna trwy ei blasu.
  • Mae Clara yn dweud fod gan y Doctor diddordeb yn yr ysbrydion "fel plentyn sydd wedi bwyta gormod o sherbet".

Cyfeiriau diwylliannol[]

  • Yn ôl y Doctor, roedd unwaith ganddo'r cân "Mysterious Girl" gan Peter Andre yn ei ben am ddau wythnos, ac fe yrrodd yn wallgof.
  • Mae Cass yn nodi bod y sefyllfa'n debyg i "Cabin in the Woods".

Nodiadau[]

  • Teitl gweithredol y stori a'r episôd canlynol oedd Ghost in the Machine. (DWM 492)
  • Dyma'r stori gyntaf ers The Unicorn and the Wasp i beidio cynnwys y sgriwdreifar sonig.

Cyfartaledd gwylio[]

  • BBC One dros nos: 3.74 miliwn
  • BBC America dros nos: i'w hychwanegu
  • cyfartaledd DU terfynol: 5.63 miliwn[1]

Lleoliadau ffilmio[]

  • Porth y Rhath (Studio 1-4)

Cysylltiadau[]

  • Tivolian yw un o'r ysbrydion. (TV: The God Complex)
  • Mae'r Doctor wedi glanio yn flaenorol mewn gorsaf tanddŵr, ynddo roedd criw yn gwynebu fygythiad a fyddai'n adfywhau'r criw marw. (GÊM: Shadows of the Vashta Nerada)
  • Mae'r Doctor yn honni ei fod yn gweithio ar gyfer UNIT. (TV: Spearhead from Space ayyb)
  • Mae un o'r cardiau yn dweud "It was my fault, I should have known you didn't live in Aberdeen". Yn flaenorol, gadawodd y Bedwerydd Doctor Sarah Jane Smith yn yna, yn lle De Croydon. (TV: The Hand of Fear, School Reunion)
  • Mae'r Doctor yn sicr nad yw ansgethau'r meirw yn ysbrydion, ac mae'n nodi nad ydynt yn afatars cnawd, (TV: The Rebel Flesh / The Almost People) Autons, (TV: Spearhead from Space) na "copïau digidol o'r Nethersphere". (TV: Dark Water / Death in Heaven)
  • Mae'r Doctor yn awgrymu dylai Clara dechrau perthynas newydd. (TV: Death in Heaven)
  • Nid oes modd i'r Doctor deall Iaith Arwyddion Prydain pellach. Yn ei seithfed ymgorfforiad roedd modd iddo ddeall iaith arwyddion. (PRÔS: Sleepy)

Rhyddhadau cyfryngau cartref[]

Rhyddhadau DVD[]

  • Rhyddhawyd yr episôd yn rhan o Doctor Who: Series 9: Part 1 ar 2 Tachwedd 2015.
  • Yn hwyrach, rhyddhawyd yr episôd fel rhan o set bocs DVD, Blu-ray ac fel Steelbook o Doctor Who: The Complete Ninth Series ar 7 Mawrth 2016.

Troednodau[]

Advertisement