Wild Blue Yonder oedd yr ail o dri o'r Episodau Arbennig 2023 Doctor Who, fel rhan o ddathliadau 60fed pen blwydd y sioe. Dynododd stori yma antur cyntaf llawn Donna Noble fel cydymaith yn dilyn dychweliad ei chofion gan y Doctor, gyda Wild Blue Yonder yn dilyn yn union wrth ddiwedd The Star Beast.
Hawliodd y stori hefyd i David Tennant a Catherine Tate i chwarae'r Doctor a Donna yn eu tro ac i chwarae prif gelynion y stori, y di-bethau. O ganlyniad, Tennant yw seithfed actor y Doctor, yn dilyn William Hartnell, Patrick Troughton, Tom Baker, Peter Davison, Colin Baker, a Matt Smith, i chwarae'r Doctor a'r prif gelyn mewn stori.
Yn nodedig, yn dilyn cael ei gyfeirio ato yn y stori flaenororl, gwlelodd Wild Blue Yonder dychweliad Bernard Cribbins fel Wilfred Mott, yn nodi ymddangosiad cyntaf Wilf yn y gyfres ers The End of Time 13 mlynedd yng nghynt gyda gweddill y teulu Noble. Serch hynny, mae ymddangosiad Cribbins yn ôl-farwolaeth, gan fu farw'r actor yn 2022 yn dilyn recordio'r golygfeydd ond cyn cael y cais i recordio golygfeydd eraill a gynhwysodd Wilf a gafodd eu hysgrifennu cyn ei farwolaeth, ac felly Wild Blue Yonder ac Episodau Arbennig 2023 yw ymddangosiad olaf Wilf a chredyd actio olaf Bernard Cribbins. Cafodd Wild Blue Yonder ei chysegru yng nghof Cribbins.
Archwiliodd Wild Blue Yonder i'r effaith emosiynol cafodd datgeliad y Plentyn Di-amser a digwyddiad y Flux ar y Doctor. Yn benodol, dangosodd y stori sut wnaeth y digwyddiadau profiadodd ymgorfforiad flaenorol y Doctor barhau i gael effaith ar y Pedwerydd ar Ddegfed Doctor, gan ddiffinio'i berthynas presennol gyda Galiffrei fel "cymhleth".
Crynodeb[]
Mae'r TARDIS, wedi'i gwylltio, yn gadael y Doctor a Donna ar long ofod dirgelus nepell, gyda chyfrinachau angheuol ym mhob cornel.
Plot[]
I'w hychwanegu.
Cast[]
- Y Doctor - David Tennant
- Donna Noble - Catherine Tate
- Wilfred Mott - Bernard Cribbins
- Isaac Newton - Nathaniel Curtis
- Mrs Merridew - Susan Twist
- Dwbl actio'r Doctor - Daniel Tuite
- Dwbl bwystfil y Doctor - Ophir Raray
- Dwbl Ystimiwr y Doctor - Tommaso Di Vincenzo
- Dwbl Actio Donna - Helen Cripps
Cyfeiriadau[]
- Unwaith treuliodd y Doctor tair mlynedd yn cylchu planed achos roedd yr HADS wedi'u hatal rhag lanio'r TARDIS.
- Camglywodd Isaac Newton jôc Donna am ddisgyrchiant, ac felly mae'n enwi'i ganfyddiad fel "mavity" yn lle "gravity".
- Yn ôl drafft o'r sgript rhyddhaodd Russel T Davies, teithiodd y Doctor a Donna y tu hwnt i Isgreigiau'r Cyddwysiad a Theyrnasoedd Ymenyddau'r Boltzmann, yn bellach na ddefnydd, golau a bywyd.
- Ganwyd Donna yn Southampton.
- Hawliodd fod y DoctorDonna i Donna cael mynediad i bopeth mae'r Doctor yn gwybod; felly mae hi'n ymwybodol o anturiau'r Unarddegfed, Deuddegfed, a Thrydydd ar Ddegfed Doctor. Ond mae Donna ei hun yn nodi, nad oes modd iddi gweld y cofion yn glîr gan ei gymharu i "erych i mewn i ffwrnes".
- Mae modd clywed y Cloch Cloister yn canu o fewn y TARDIS.
- Mae'r bydysawd eisioes 37.5% o'i faint gwreiddiol. Oherwydd dinistriodd y Flux hanner o'r 75% oedd ar ôl yn 1981; achosodd y Meistr ton entropi a ddinistriodd y CVEs a hawliodd mynediad i Ofod-E.
- Mae'r bydysawd yn anfeidrol, ond mae ganddo ffin. Mae hon yn bosib oherwydd mathemateg fflat Cambwliaidd.
Cyfeiriadau diwylliannol[]
- Yn dilyn dod o hyd i gerbyd, mae'r Pedwerydd ar Ddegfed Doctor yn dynwared y cymeriad Thunderbirds, Parker, wrth ddweud "Your car, milady", gyda Donna yn ymateb "Thank You, Parker!".
- Wrth gwestiynnu'r Doctor am sut roedd modd i'r di-bethau tyfu os oedd ganddyn nhw más penodol, mae Donna yn cofio sut gwynodd Shaun am y fater hon wrth wylio'r ffilmiau Venom.
Nodiadau[]
- Cysegrwyd yr episôd yma i gof Bernard Cribbins, yn dilyn ei farwolaeth dros flwyddyn cyn darllediad.
- Yn wahanol i weddill Episodau Arbennig 2023, The Star Beast a The Giggle, roedd marchnata Wild Blue Yonder yn annelwig iawn gan ddatgelu prin manylion am y plot. Dymunodd y BBC i gadw syrpreisys y stori a roedd Russell T Davies eisiau i un o'r episodau i fod yn ddirgel hollol. Yn ôl y cyfarwyddwr, Tom Kingsley, nid oedd gan y cyfrinachedd unrhywbeth i wneud â "actorion neu elynion yn dychwelyd mewn syndod", ond achos "credon ni byddai'n mwy o sbri i bobl i wylio'r sioe heb wybod beth fyddai'n digwydd nesaf".
- Cyfeiriwyd at ddarllediad cyntaf y stori yma ynghyd gweddill Episodau Arbennig 2023 yn y cynhwysiad ffeithiol Back in Business a gafodd ei gyhoeddi yn Doctor Who The Official Annual 2024 ar 7 Medi 2023.
- Rhyddhawyd rhagolwg o'r episôd yn DWM 597, gan ddatgelu elfen o'r plot a rhan o'r ddeialog rhwng y Doctor a Donna. Rhyddhawyd hefyd oedd rhestr o'r cast, yn nodi Tennant a Tate, a thri enw arall ag oedd wedi'u cuddio gan "[REDACTED]"; Nathaniel Curtis, Susan Twist, a Bernard Cribbins oedd rhein.
- Nid oedd manylion cast yn y rhestriad Radio Times, gyda'r crynodeb "In the second of Doctor Who's 60th anniversary special episodes, the Tardis takes the Time Lord and Donna to the furthest edge of adventure. To escape, they must face the most desparate fight of their lives. Starring David Tennant, Catherine Tate and Susan Twist."
- Seiliwyd teitl yr episôd ar y gân "Wild Blue Yonder". Cyfeiriwyd at y gân yn yr episôd ac mae'n cael ei chwarae gan y TARDIS.
- Disgrifiodd David Tennant y stori fel "unlike any Doctor Who episode ever", gan gyfeirio at yr episodau arbennig cyfan fel "Russell [T Davies] off the leash".
- Dyma'r ail episôd i ddarlledu ar Disney+ yn unig y tu allan i'r Deyrnas Unedig.
- Wedi'u datgelu yn gyntaf yn hysbysiadau'r BBC, yr enw rhowd i'r robot mewn deunyddiau hsybysiadol oedd "Jimbo". Yn hwyrach, dangosodd yr episôd rodd y Doctor a Donna'r enw i'r robot.
- Yn Argraffiad 597 Doctor Who Magazine, nododd Davies pump gair byddai'n chwarae rhan yn yr episôd: Southampton, vegetable, bean, starlight, a Flux. Fe ddatgelodd hefyd byddai hanes y Flux a'r Plentyn Di-amser hefyd yn cael eu delio gyda mewn rhan yn yr episôd.
- Dyma'r episôd cyntaf yn dilyn ymadawiad Chris Chibnall i gyfeirio at y Flux a'r ffaith na chafodd y Doctor eu geni ar Galiffrei.
- Dyma'r seithfed stori i gael yr actor sydd yn chwarae'r Doctor i chwarae'r prif gelyn, yn dilyn TV: The Massacre, The Enemy of the World, Meglos, Arc of Infinity, The Eleventh Hour, a Nightmare in Silver.
Cyfartaleddau gwylio[]
Cysylltiadau[]
- Mae TARDIS y Doctor yn adfywio ei hun yn dilyn derbyn niwed difrifol. (TV: The Eleventh Hour, The Ghost Monument) Yn wahanol i sawl un o'r adegau blaenorol, deuchreuodd y Doctor y broses yma ar bwrpas yn lle dechrau'n awtomatig, ac ni newidodd ymddangosiad y TARDIS, yn debyg i sut drwsiodd eu hymgorfforiad blaenorol y TARDIS yn dilyn y Flux. (TV: Eve of the Daleks)
- Mae'r Doctor a Donna wedi'u strandio o ganlyniad i actifiant yr HADS. (TV: Cold War, The Magician's Apprentice, The Witch's Familiar)
- Arllwysodd Donna goffi ar gonsol y TARDIS. (TV: The Star Beast)
- Mae'r Doctor yn llyfu sylwedd i ddysgu am ei rinwedd; sydd yn arferiad o'u degfed ymgorfforiad, (TV: The Christmas Invasion, The Idiot's Lantern, The Fires of Pompeii, Planet of the Dead) arferiad a ddynwarodd eu hunarddegfed a thrydydd ar ddegfed ymgorfforiadau. (TV: The Eleventh Hour, Day of the Moon, It Takes You Away)
- Wrth ddysgu maent wedi cyrraedd 1666, mae'r Doctor yn cynghori Isaac Newton i osgoi Llundain. (TV: The Visitation)
- Wrth ddynwared Donna, mae un o'r di-bethau yn nodi nad oedd y Doctor wedi'u geni ar Galiffrei, cyn aeth y Doctor ymlaen i esbonio roedd y Flux wedi "dinistrio hanner y bydysawd oherwydd fi". (TV: The Timeless Children, The Vanquishers)
- Mae Donna yn nodi bod y Doctor yn gwybod 27 miliwn iaith, ond mae'r Doctor yn cywiro ei chred, gan nodi ei fod ganddo dealldwriaeth o 57 miliwn; yn flaenorol, nododd y Nawfed Doctor ei fod yn siarad 5 biliwn iaith heb yr angen ar gyfer cylchau cyfieithu'r TARDIS.(TV: The Parting of the Ways) Yn ychwanegol, mae'r Doctor yn honni nad yw'n gwybod y ieithoedd a ddefnyddiwyd ar ffiniau'r bydysawd, gan gofio nad oedd eu degfed ymgofforiad yn gwybod iaith y bwystfil ar Krop Tor. (TV: The Impossible Planet)
- Wrth weld ei gilydd, mae Donna a'i aldewyrchiad di-beth yn sylwadu maent yn hoffi edrychiad y llall; cafodd Amy Pond ymateb tebyg wrth weld fersiwn o'i hun o'r dyfodol. (TV: Time)
- Mae'r Doctor yn colli ei sgriwdreifar sonig a'r TARDIS, yn gorfodi iddo ymddiried yn hollol yn ei allu yn unig, yn union fel profiadodd y Nawfed a'r Deuddegfed Doctorau. (TV: Father's Day, Oxygen)
Rhyddhadau cyfryngau cartref[]
Rhyddhadau DVD a Blu-ray[]
Rhyddhawyd yr episôd yma, ynghyd The Star Beast a The Giggle, ar DVD Rhanbarth 2, ar Blu-ray, ac mewn Steelbook ar 18 Rhagfyr 2023.
Troednodau[]
|