Wici Cymraeg Doctor Who
Advertisement
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

World Enough and Time (Cy: Byd ac Amser Fythbarhaol) oedd unarddegfed episôd cyfres 10 Doctor Who.

Parhaodd yr episôd hon arc stori ymadferiad Missy, gyda'r Doctor yn cymryd Missy ar ei hantur cyntaf, gan ei hymddiried gyda'i ddau gydymaith fel prawf o'i daioni. Porteadodd yr episôd hefyd transnewidiad Bill Potts i Cyberman, a dechreuad beth sydd yn ymddangos i fel adfywiad y Deuddegfed Doctor.

Roedd hefyd yn nodedig am ddychweliad John Simm fel y Meistr, saith mlynedd yn dilyn ei ymddangosiad diweddaraf yn The End of Time, yn dynodi'r tro cyntaf i actor Meistr dychwelyd i'r gyfres teledu ar ôl i Meistr newydd cael eu castio. Darluniodd yr episôd hefyd Meistr John Simm yn actio ochr yn ochr gyda Missy Michelle Gomez, yn marcio'r ymddangosiad cyntaf o mwy nag un Meistr ar-sgrîn.

Portreadodd y stori hefyd ddychwelyd y Cybermen Mondasiaidd ar deledu am y tro cyntaf ers eu hymddangosodiad cyntaf yn 1966 yn The Tenth Planet, ac ymddangosodiad sylweddol cyntaf y Cybermen ers Death in Heaven yng nghyfres 8. Disgrifiodd yr episôd pedwerydd hanes eiledol am darddiad y Cybermen Mondasiaidd - cafodd hanesau eraill eu cynnwys yn y storïau comig The World Shapers a The Cybermen a'r stori sain Spare Parts. Esboniwyd y tarddiadau gwahanol yn The Doctor Falls gyda chyfeiriad at "esblygiad paralel".

Crynodeb[]

Mae'r Doctor yn eisiau meintiolu daioni Missy, felly mae'n penderfynu rhoi prawf iddi trwy roi antur cais iddi gyda Bill a Nardole. Ond wrth i bethau mynd o'i le, mae rhaid i'r Doctor cymryd drosodd. Gyda Bill mewn rhanbarth amser wahanol, a oes modd i'r Doctor ei leoli cyn yw'n rhy hir, a pwy yw'r holl bobl yn derbyn triniaeth yma.

Plot[]

I'w hychwanegu.

Cast[]

Cast di-glod[]

  • Myfyrwyr:[1]
    • Aleksandar Tomov
    • Eric Aydin-Barberini
    • Melissa Azombo
    • Ryan Ball
    • Helena Dennis
    • Sophia Rose Holmes
    • Leroy Rohman
    • Katie Wong
  • Staff y Gegin:[1]
    • Alison Lintern-Gittens
  • Cleifion gyda drip:[1]
    • Jamie Hill
    • Liam Carey
    • Sam Rush
    • James O'Neill
    • Andrew Sweet
  • Bod Dynol:[1]
    • Olly Mullen
    • Jayesh Harji
    • Murray Johnston
    • Joe Felton
    • Nikhil Theva Raj
    • Naomi Page
    • Victoria Coutts
    • Tamina Ali
    • Antonia Forrest
    • Giulia Patricolo
    • Maggie Baiton
    • Mariella Gedge
    • Fiona Smith
    • Samantha Davies
    • Donna Sibanda
    • Mark Granger
    • Richard Allen
    • Angus Brown
    • Rhys Mumford
    • Martyn Jackson
  • Dwbl llaw'r nyrs:[1]
    • Sandra Cosfeld
  • Cleifion:[1]
    • Michael Gleeston
    • Michael-Rae Formston
    • Neil Cox
    • James O'Neill
    • Andrew Sweet
    • Matt Rohman
  • Cleifion (gan gynnwys Claf gyda thwll ceg):[1]
    • James Biss
    • Dean Weir
    • Joshua Masini
    • Daryl Matthews
  • Gofalwyr:[1]
    • Chris Wilkinson
    • Chris Goldhawk
  • Cleifion gydag Unedau Brest Mawr:[1]
    • James O'Neill
    • Liam Carey
    • Sam Rush
  • Plant:[1]
    • Noora Ghandour
    • Celyn Brooks
    • Cesian Rees Harris
    • Lucia Taher
    • Bowen Cole
    • Evan Cole
    • Jack Hurley
    • Eric Ridgwell
  • Dwbl stỳnt Jorj:[1]
    • Andrius Davidenas
  • Cleifion gyda thwll ceg:[1]
    • Jamie Hill
    • James O'Neil
    • Liam Carey
    • Sam Rush
  • Bill Cyberman:[1]
    • Liam Carey

Cyfeiriadau[]

Lleoliadau[]

  • Yn dilyn dinistriad ei chalon gan Jorj, mae Bill yn cael ei chymryd gan gleifion o Llawr 0000 i Llawr 1056 y Llong Wladfa Mondasiaidd.
  • Wrth gyrraedd Llawr 1056, mae Bill yn cael ei thywys i'r Theatr Drawsnewid ar gyfer rhan-drawsnewidiad i mewn i glaf. 10 mlynedd hwyrach, mae Bill yn cael ei thwyllo i mewn i'r theatr unwaith eto gan "Razor" i cael ei thrawsnewid yn gyfan gwbl.
  • Mae Razor yn dweud blynyddoedd maith cyn i Bill cyrraedd, roedd unwaith cyrch i Llawr 0507, y ffarm solar mwyaf, ond nid oedd neb wedi dychwelyd o'r cyrch.

Cybermen[]

  • Mae'r cleifion yn Cybermen-Mondasiaidd wedi'u rhan-drawsnewid.
  • Mae'r cleifion yn defnyddio synthseinyddion llais i siarad.
  • Mae dolenni'r Cybermen Mondasaidd yn gweithio fel eu hatalydd teimladau.
  • Yn ôl y Doctor, mae'r Cybermen yn rhan o rwydwaith niwral.

Gwyddoniaeth[]

  • Mae'r long ofod yn ceisio troi i ffwrth wrth dyniad disgyrchiant dwll du.
  • Oherwydd effaith helaethant amser y twll du, mae amser yn arafach ar flaen y llong ofod nag ar gefn y llong. Mae'r Doctor yn ei enwi'n "ddisgyrchiant-Superman".

Bioleg[]

  • Yn ôl y Doctor, y calon yw'r organ pwysicaf, gan nodi bod un yn unig gan ddyn.
  • Yn ôl y Doctor, mae ganddo freichiau cudd.

Technoleg[]

  • Mae gan Missy ymbarél sonig.
  • Mae modd ddefnyddio scriwdreifar sonig y Doctor pen bwrdd gwyn.
  • Mae lifftiau inertia a camerâu teledu cylch cyfyng ar y llong.
  • Mae gan y llong hyd o 400 milltir a lled o 100 milltir.
  • Mae Missy, Nardole a Bill yn gwisgo clustffonau er mwyn siarad â'r Doctor, sydd yn ei TARDIS.
  • Mae Razor yn meddwl fod ymddangosiad yr uned galon yn debyg i beiriant gwerthu ar y mwyafrif o bobl.
  • Mae Llawfeddyg ysbyty Llawr 1056 yn defnyddio peiriant o'r enw Medi-Ject 08 i law-drin y cleifion.

TARDIS[]

  • Mae modd symud sgrînau consol y TARDIS o amgylch yr ystafell gonsol cyfan, gyda gwifren hir wedi'i gysylltu iddo.

Rhywogaethau[]

  • Yn ôl Missy, mae'n hygas i gamgymryd Arglwydd Amser am ddyn.

Unigolion[]

  • Yn ystod ei ymgorfforiad cyntaf, roedd gan y Doctor "man crush" ar y Meistr wrth astudio yn yr Academi.
  • Mae Missy yn cyfeirio at Bill a Nardole fel "cynorthwyion", "anifeiliaid anwes", "snaciau" a "thafladwyion" yn lle "cymdeithion".
  • Mae Missy yn camfeddwl bod "ofn" yn cael ei alw'n spancio gan ddynoliaeth.
  • Jorj yw ofalwr y llong wladfa.

Llysenwau ac aliasau[]

  • Mae Missy yn defnyddio yr alias "Doctor Who", ac yn rhoi'r llysenwau "Peth Un" ac "Y Llall" i Bill a Nardole, ac mae'n honni mai gwir enw y Doctor yw "Doctor Who".
  • Mae Missy yn rhoi'r enw "exposition" i Bill, a "comic relief" i Nardole. Mae'n honni mai rhywiau yr rhain.
  • Mae Missy yn cyfeirio at Jorj fel ei march, a'n hwyrach fel "Smurf" yn gellweirus.

Diwylliant[]

  • Mae Missy yn 'dabio'.
  • Yn ôl y Doctor, dydy rhyw na swyddi rhywedd ddim yn bwysig yn nghymdeithas yr Arglwyddi Amser. Ateb Bill yw sylwad ar y ffaith mai "Arglwyddi Amser" yw enw'r rhywogaeth, yn achosi'r Doctor i ddweud "cau dy ben" iddi.
  • Mae Nardole yn cymryd selfie gyda'r Doctor.
  • Enw gweithrediad creadigaeth y Cybermen ar Lawr 1056 yw "Gweithrediad Exodus".
  • Mae teitl Saesneg y stori wedi cymryd wrth linell gyntaf cerdd gan Andrew Marvell o'r enw "To His Coy Mistress". Neges y gerdd yw i fyw bywyd i'r gorau, gan mae marwolaeth o hyd yn agosáu.

Bwydydd a diodydd[]

  • Mae'r Doctor yn bwyta paced o greision â'r enw "Bamon crisps".
  • Mewn cais i ddynwared fflyrtio dynol, mae Missy yn dweud wrth Jorj "os ydw i yn y cawod, dere â ffa pob ar dost i mi".
  • Mae Bill yn coginio sglodion mewn ffriwr.
  • Mae puprau a bresych yn nghegin Prifysgol St Luke.
  • Mae'r Doctor a Bill yn bwyta sglodion.
  • Mae Bill yn bwyta brechdan bacwn. Mae'r Doctor yn dweud wrthi i "siarad â mochyn am [ei] moesau" wrth ymateb i amau Bill am fod yn gydymaith Missy am antur.
  • Mae Nardole yn bwyta gacen Jaffa.
  • Mae Razor yn paratoi te am Bill.
  • Mae Razor yn defnyddio tin o ffa pob i esbonio'r llong wladfa.
  • Mae Razor yn coginio bacwn.
  • Mae Missy yn awgrymu creu cawl gydag organau craidd Razor.

Cerddoriaeth[]

  • Yn fuan ar ôl dihuno'n llawn ar Lawr 1056, mae Bill yn clywed cerddoriaeth opera yn chwarann yn y Theatr Drawsnewid wrth i waith ddigwydd yno.

Nodiadau[]

  • Dynoda World Enough and Time ymddangosiad cyntaf dyluniad gwreiddiol y Cybermen Mondasiaidd ers stori gyntaf y Cybermen yn The Tenth Planet yn 1966.
  • Mae'r episôd yma yn dynodi dychweliad Meistr John Simm am y tro cyntaf ers The End of Time yn 2010. Mae hefyd yn dynodi tro cyntaf i mwy nac un ymgorfforiad o'r Meistr ymddangos ar sgrîn ar yr un pryd.
  • Mae linell yn cymharu Gweithrediad Exodus i "Genesis of the Cybermen" yn gyfeiriad at stori Doctor Who 1975 Genesis of the Daleks, a welodd y Pedwerydd Doctor yn cael ei ddanfod i grëad y Daleks. Yn dilyn llwyddiant Genesis of the Daleks, cynlluniwyd stori o'r enw Genesis of the Cybermen, na chafodd ei gynhyrchu (er, hon yw un o nifer o storïau a gyflawnodd y syniad. Mae modd gweld rhestr llawn ar Genesis of the Cybermen). Mae efallai hefyd yn amwysair ar lyfrau'r Beibl, Exodus a Genesis. Fel cyd-ddigwyddiad, yn flaenorol cyhoeddodd Doctor Who Magazine trioleg o storïau o'r enw Exodus / Revelation! / Genesis!, wnaeth hefyd cynnwys y Cybermen. Yn ychwanegol, cafodd Genesis a Revelation (ond dim Exodus) eu defnyddio fel teitlau yn rhan o'r fformiwla "... of the Daleks".
  • Am y tro cyntaf yn y gyfres deledu, (ond ddim yn y gyfres gyfan, o bell ffordd) mae'r Doctor yn defnyddio'r enw trwy ddefnyddio'r enw "Doctor Who". Cafodd ei cyfeirio ato sawl gwaith gan ddefnyddio'r enw trwy gydol y gyfres (gyda phob esiampl wrth y fasnachfraint gyfres yn rhy niferus i restru yma): yn The War Machines, mae WOTAN yn dweud "Doctor Who is required", er oherwydd camgymeriad yn y sgript; yn The Highlanders, mae'r Ail Doctor yn cyflwyno ei hun fel "Doktor von Wer" (Almaeneg am "Doctor [o] bwy"); yn The Underwater Menace, mae'r Ail Doctor yn defnyddio llofnod a ddarllenir "Dr. W"; yn The Dæmons, cyflwynwyd y Trydydd Doctor gan ddefnyddio'r enw "the great wizard Qui Quae Quod" (ystod o eiriau Lladin ag olygir "Pwy"); o Doctor Who and the Silurians nes The Five Doctors, mae plât Bessie, car y Doctor, yn darllen WHO 1, ac yn Battlefield fe ddywedodd WHO 7; ac yn Rose, mae gwefan o'r enw whoisdoctorwho.co.uk yn gofyn "Who is Doctor Who?". Er i Missy honni mai "Doctor Who" yw enw go iawn y Doctor, mae hefyd yn cyfaddef defnyddiodd hi'r enw yn bennaf er mwyn osgoi ymateb arferol pobl o "Doctor who?" ar ôl i'r Doctor cyflwyno ei hun. Mae hefyd yn dynodi dewisodd y Doctor yr enw am ei hun, yn awgrymu mae'n golygu "enw go iawn" o ran hunan-ddisgrifiad.
  • Roedd "Gweithrediad Exodus" yn bryder barhaol am breswylwyr Moonbase Alpha yng nghyfres deledu yr 1970au, Space: 1999. Yn y gyfres, roedd y weithrediad yn gynllun i wacáu preswylwyr y Lleuad i leoliad arall - yn bennaf nôl i'r Ddaear - mewn argyfwng, ond addaswyd y cynllun hon yn hwyrach i unryw gorff lletyol.
  • Pan mae'r Meistr yn datguddio ei hun, mae cloch larwm yn y cefndir yn seinio gyda phatrwm curiad drwm. Mae hefyd modd clywed hon wrth iddo cerdded i mewn i'r theatr drawsnewid gyda Missy. Cafodd y Meistr ei gysyllu â drymiau yn TV: Utopia, The Sound of Drums, Last of the Time Lords a The End of Time.

Cyfartaleddau Gwylio[]

  • BBC One dros nos: 3.37 miliwn
  • Cyfartaledd DU terfynol: 5.01 miliwn[2]

Cysylltiadau[]

  • Mae'r Doctor yn datgysylltu paneli consol y TARDIS wrth y brif adeiladwaith. (TV: Journey to the Centre of the TARDIS, Flatine)
  • Mae gan Missy ymbarél ddu, yn union fel wnaeth hi fel y Dyn Ymbarél. (PRÔS: Who Killed Kennedy
  • Mae Missy yn dawnsio i larwm. Yn flaenorol, dawnsiodd hi i siantiau "EXTERMINATE" y Brif Ddalek. (TV: The Witch's Familiar)
  • Mae'r Doctor yn cyfeirio at ddefnydd Missy o'r TARDIS i achub ef, Bill a Nardole o Fawrth. (TV: Empress of Mars)
  • Mae Bill yn gweithio yng nghegin Prifysgol St Luke. (TV: The Pilot)
  • Mae'r Doctor unwaith eto yn cwyno am y ffaith bod gan ddyn un calon yn unig. (TV: The Shakespeare Code, The Power of Three)
  • Mae'r Doctor a Bill yn bwyta sglodion. Yn flaenorol, bwytodd y Nawfed Doctor a Rose Tyler sglodion. (TV: The End of the World) Bwytodd y Degfed Doctor, Martha Jones a Jack Harkness sglodion gyda'i gilydd wrth siarad am yr Arglwyddi Amser. (TV: The Sound of Drums)
  • Mae'r Cybermen Mondasiaidd yn ymddangos unwaith eto, ac mae Mondas yn cael ei hymddangos ar-sgrîn. Noda Missy bod y blaned yn efaill i'r Ddaear. (TV: The Tenth Planet) Yn ei bumed ymgorfforiad, gwelodd y Doctor y Mondaswyr ag arhosodd ar Fondas trawsnewid eu hun i mewn i Cybermen am resymau debyg i'r llong wladfa. (SAIN: Spare Parts)
  • Mae Nardole yn sgrechen wrth gael syndod, yn union fel wnaeth ei hunan digidol. (TV: Extremis)
  • Mae rhaid i'r Doctor teithio i ranbarth amser gwahanol o'r un lleoliad er mwyn achub ei gydymaith, ond mae'n cyrraedd yn rhy hwyr. (TV: The Girl Who Waited)
  • Trafodwyd "enw go iawn" y Doctor. (TV: The Name of the Doctor) Mae'r Doctor unwaith eto yn dynodi ei hoffder o dderbyn y cwestiwn "Doctor Who?". (TV: The Bells of Saint John)
  • Mae'r Doctor yn dweud bod mynd ar antur gyda Bill yw rhywbeth mae'n gwneud ar Ddyddiau Sadwrn, yn union fel Dydd Mercher oedd dydd ei anturiau gyda Clara Oswald. (TV: Nightmare in Silver)
  • Mae'r Doctor yn cyfeirio at gwrdd y Meistr yn Academi yr Arglwyddi Amser. (PRÔS: Divided Loyalties)
  • Mae'r llawfeddyg yn egluro mai dolenni'r siwt-seibr yn gweithio i atal teimladau felly, ni fydd gan Bill ots am ei phoen. (TV: The Age of Steel)
  • Unwaith eto, mae'r Doctor yn gweld cydymaith yn dioddef anaf lladdgar, (TV: Face the Raven) cyn mae technoleg yn hawlio'r ddau i fyw; yn y ddau achos, nid yw eu calonau yn gweithio rhagor. (TV: Hell Bent)
  • Mae'r Meistr yn defnyddio'i wisg o "Razor" fel ni fyddai Bill yn ei adnabod wrth ei amser yn gweithio fel Prif Weinidog y Deyrnas Unedig. (TV: The Sound of Drums)
  • Mae Missy yn rhoi sylwad cellweirus am y bwlch oedran rhwng y Doctor a'i gymdeithion. Gwnaeth yr Arglwydd Breuddwyd sylwad tebyg. (TV: Amy's Choice)
  • Mae'r Doctor yn barnu Bill am fwyta frechdan bacwn wrth i'r ddau ymladd dros foesau Missy. Mae hon yn adlewyrchu trafodaeth cynharach y ddau. (TV: The Pilot)

Rhyddhadau cyfryngau cartref[]

Rhyddhadau DVD a Blu-ray[]

  • Rhyddhawyd World Enough and Time gyda gweddil episodau Cyfres 10 ar DVD, Blu-ray a Steelbook ar 13 Tachwedd 2017 fel Doctor Who: The Complete Tenth Series.

Troednodau[]

Advertisement