World War Three oedd pumed episôd Cyfres 1 Doctor Who.
Clodd y stori yma'r stori a ddechreuodd yn Aliens of London. Cynhwysodd y stori achos gyntaf o Mickey Smith yn helpu'r Doctor yn, ac yn ymddwyn fel cydymaith, rhywbeth fe fydd ef yn ddod i fod mewn amser. Awgrymodd y stori dyfodol gwleidyddol cryf am Harriet Jones, rhywbeth fyddai'r Degfed Doctor yn newid am y llinell amser yn The Christmas Invasion. Dyma hefyd yr achos cyntaf yn hanes Doctor Who mae TARDIS y Doctor yn cael ei ddangos i gael teleffôn sydd yn gweithio - rhywbeth a fyddai'n digwydd yn fwy aml yng nghyfnod Steven Moffat - tra ffafriodd cyfnod Russell T Davies defnyddio'r ffôn symudol Martha Jones rhodd hi iddo yn Last of the Time Lords.
I gyfeilio rhyddhad y stori yma, rhyddhawyd y storïau sydyn Number Ten Pays Tribute to UNIT a Number Ten ar wêfan UNIT, a rodd fanylion pellach am ddinistriad 10 Downing Street o safbwynt UNIT.
Crynodeb[]
Gyda fygythiad rhyfel rhyngblanedol, mae'r hil ddynol yn paratoi am y diwedd, heb wybod mae eu gwir gelynion yng nghanol Llywodraeth Prydain. Wrth i'r Nawfed Doctor, Rose Tyler, a'u ffrind newydd Harriet Jones brwydro am eu bywydau yn 10 Downing Street, mae'r teulu Slitheen yn dechrau eu cynllun i ddinistrio'r Ddaear. Gyda'r byd yn newid o'i amglych, mae'r Doctor yn ddi-bwer yn erbyn ei dynged, ac i bob olwg, ond Mickey Smith all achub y byd...
Plot[]
I'w hychwanegu.
Cast[]
- Doctor Who - Christopher Eccleston
- Rose Tyler - Billie Piper
- Joseph Green - David Verrey
- Jackie Tyler - Camille Coduri
- Harriet Jones - Penelope Wilton
- Mickey Smith - Noel Clarke
- Gadfridog Asquith - Rupert Vansittart
- Sarsiant Price - Morgan Hopkins
- Andrew Marr - ei hun
- Margaret Blaine - Annette Badland
- Strickland - Steve Spiers
- Adroddwr - Jack Tarlton
- Adroddwr - Lachele Carl
- Paentiwr - Corey Doabe
- Slitheen - Elizabeth Frost, Paul Kasey, Alan Ruscoe
Cast di-glod[]
|
|
Cyfeiriadau[]
- Mae defnydd finegar a chalsiwm "yn union fel Hannibal".
- Mae Mickey yn cyfeirio at y Slitheen fel "bwystfil gors".
- Mae'r Doctor yn cyfeirio at Mickey fel twpsyn.
Bwydydd a diodydd[]
- Mae gan Mickey winwns picl, wyau picl, a gyrcins yn ei gwpwrdd.
- Mae Jackie yn cynnig gwneud pei bugail am y Doctor.
- Mae Jackie yn gynnig Amaretto i'r Doctor, ac yn gofyn os yw'r Doctor yn yfed. Mae'r Doctor yn poeri allan y gwin mae'n yfed yn 10 Downing Street.
Arc Bad Wolf[]
- Feindiodd a chosbodd y Doctor y bachgen a beintiodd "BAD WOLF" ar ochr ei TARDIS gan cael ef i lanhau'r TARDIS.
Nodiadau[]
- Mae Andrew Marr yn chwarae ei hun fel adroddwr newyddion.
- Yn ôl Russell T Davies (ymysg eraill), enw gwreiddiol y stori yma oedd Aliens of London Part Two nes y funud olaf, pryd newidodd y teitl i World War 3, cyn newid i World War Three.
- Mae elfennau o'r stori yma yn parodi o ymosodiad 2003 Iraq ac ymddygiad Prif Weinidog, Tony Blair. Yn enwedig, mae rhein yn cynnwys streic wedi'i seilio ar wybodaeth anghywir, a phresenoldeb "arfau dinistriad eithafol" ag oedd modd darparu mewn 45 eiliad, o'i gymharu ag "arfau dinistriad eithafol" a oedd modd darparu mewn "45 munud" Blair.
- Wrth i Slitheen wedi'i guddio fel heddwas ymddangos y tu allan fflat Mickey, mae modd gweld "Salford" ar y wal ar bwys y lifft. Mae modd taw cyfeiriad dynwaredol at gartref Christopher Eccleston, Salford.
- Yn wahanol, roedd ailadroddiad cliffhanger yr episôd olaf cyn y teitlau agoriadol yn cynnwys datrysiad y cliffhanger: y Doctor yn cymryd ei fathodyn ID ac yn ei roi ar Slitheen. Mae'r defnydd o "agoriad oer" ail hanner stori dwy ran i ddatrys cliffhanger yr episôd gyntaf yn cael ei defnyddiodd eto ar gyfer TV: The Doctor Dances, ond yn dilyn hon, byddai defnydd "agoriad oer" ail hanner stori dwy ran yn cael ei gollwng ar gyfer gweddill cyfnod Russell T Davies. Byddai'r defnydd yma yn dychwelyd yng nghyfnod Steven Moffat, ond byddai mwy na'r datrysiad yn cael eu cynnwys yn yr "agoriad oer" fel arfer.
- Yn rhyfeddol, pryd bynnag mae modd gweld tu mewn i'r TARDIS o'r tu allan, mae modd gweld ochr mewnol y blwch heddlu, yn lle ystafell gonsol y TARDIS. Tra'r arfer ar gyfer y gyfres clasurol, yn y gyfres modern mae o hyd modd gweld ystafell gonsol o'r tu allan.
Cyfartaleddau gwylio[]
- Cyfartaledd DU terfynol: 7.98 miliwn
Cysylltiadau[]
- Mae cynllun y Slitheen yn debyg i fwriad y Dominators â'r blaned Dulkis pan cwrddon nhw'r Ail Ddoctor. (TV: The Dominators)
- Mae'r ffaith bod gan yr UN codau ar gyfer rhyddhau arfau niwclear yn adlewyrchu sut roedd gan y DU y codau i ryddhau arfau niwclear y byd. (TV: Robot)
- Dinistriwyd 10 Downing Street. (SAIN: The Longest Night)
- Mae modd i ffôn symudol Rose derbyn galwadau trwy waliau'r Ystafell Cabinet sydd wedi'u selio a derbyn galwadau wrth y TARDIS. Yn flaenorol, uwchraddiodd y Doctor ei ffôn ar Platfform Un fel byddai modd iddi galw ei mam o bum biliwn mlynedd yn y dyfodol. (TV: The End of the World)
- Er mae'r "Tydydd Rhyfel Byd" yn cael ei osgoi gan y Doctor, mae modd amcan digwyddodd Trydydd Rhyfel Byd at ryw bwynt, gan mae'r Doctor wedi cyfeirio at y Pumed Rhyfel Byd. (TV: The Unquiet Dead) a bron-ddechreuad y Chweched Rhyfel Byd. (TV: The Talons of Weng-Chiang)
- Bydd y teulu Slitheen yn dychwelyd i'r Ddaear sawl gwaith. (PRÔS: The Monsters Inside, TV: Revenge of the Slitheen, The Lost Boy, The Gift)
- Roedd modd i'r Slitheen a guddiodd fel Margaret Blaine telegludo allan o Downing Street cyn cafodd ei dinistrio, yn cael ei mordraethio ar y Ddaear. (TV: Boom Town)
- Mae Harriet Jones yn dod yn Brif Weinidog Prydain, (TV: The Christmas Invasion) cyn cael ei gwaredu gan ymgorfforiad nesaf y Doctor. (TV: The Christmas Invasion, The Sound of Drums, The Stolen Earth)
- Mae'r Doctor yn ceisio perswadio Rose i ailymuno ag ef yn y TARDIS trwy ddisgrifio storm blasma yn y Nifwl Pen Ceffyl. Mae hon yn adlewyrchu'r ffordd perswadiodd y Trydydd Doctor Sarah Jane Smith i deithio ag ef. (TV: Invasion of the Dinosaurs) Yn hwrach byddai'r Degfed Doctor yn ceisio'r un peth yn anllwyddiannus gyda Martha Jones, (TV: Last of the Time Lords) a'i wneud yn ddi-angen gyda Donna Noble. (TV: The Sontaran Stratagem)
- Mae'r Doctor yn gofyn wrth Mickey i ddileu ei bresenoldeb o'r wê. Blwyddyn yn diweddarach, byddai feirws "Bad Wolf" wedi dileu pob soniad o Rose Tyler. (TV: Love & Monsters)
- Mae'r Doctor yn cynnig i Mickey teithio gydag ef, ond mae Mickey yn gwrthod; yn hwyrach, bydd Mickey yn wahodd ei hun i deithio gyda'r Doctor a Rose, yn dilyn Sarah Jane Smith yn ei annog. (TV: School Reunion)
- Unwaith eto mae grŵp o filwyr yn anelu eu drylliau at y Doctor. (TV: Aliens of London)
- Mae'r Doctor yn yfed gwin, cyn poeri'r diod nôl allan. Byddai ei unarddegfed ymgorfforiad yn gwneud yr un peth ar sawl adeg. (TV: The Lodger, The Impossible Astronaut)
- Mae'r Doctor wedi dal y plentyn ag ysgrifennodd "BAD WOLF" ar ochr ei TARDIS, ac yn ei orchymyn i lanhau'r eiriau wrth ochr y TARDIS. (TV: Aliens of London)
- Mae cyfrinair UNIT y Doctor wedi bod yn "Buffalo" ers ei chweched ymgorfforiad o leiaf. (SAIN: Vampire of the Mind)
- Mae Jackie Tyler yn mynnu dylai Rose a'r Doctor cael eu hurddo'n marchogion am achub y blaned. Yn hwyrach, mae'r dau yn cael eu hurddo'n marchogion gan y Frenhines Fictora, ond mae'r Doctor yn ei yngorffodiad nesaf erbyn hynny. (TV: Tooth and Claw)
- Er mae'n cymryd amser i'r Doctor cofio blaned gartrefol y Slitheen, roedd y Doctor yn gyfarwydd a Racsacoricoffalapatoriws mor gynnar a'i ail ymgorfforiad, gan frwydrodd ef â Hanazeen-Blathereen. (PRÔS: A Comedy of Terrors)
- Mae'r Doctor unwaith eto yn nodi abl dynoliaeth am hunan-ddinistriad. (TV: Remembrance of the Daleks)
Rhyddhadau cyfryngau cartref[]
- Cafodd World War Three, ynghyd Aliens of London a Dalek, eu rhyddhau ar DVD ar 13 Mehefin 2005 (DU) ac ar 7 Tachwedd 2006.
- Yn hwyrach, cafodd yr episôd ei rhyddhau gyda gweddill Cyfres 1 yn rhan o DVD Doctor Who: The Complete First Series ar 21 Tachwedd 2005.
- Cafodd yr episôd ei rhyddhau yn rhan o Doctor Who DVD Files #3.
- Rhyddhawyd yr episôd ar Doctor Who: Series 1-4 ym mis Hydref 2009, ac wedyn ar blu-ray yn rhan o Doctor Who: Complete Series 1-7 ar 4 Tachwedd 2013 (DU) ac ar 5 Tachwedd 2013 (UDA).
- Ar 20 Mawrth 2017 cafodd yr episôd ei rhyddhau gyda gweddill Cyfres 1 mewn Steelbook.
Troednodau[]
|
|