Wici Cymraeg Doctor Who
Register
Advertisement
Wici Cymraeg Doctor Who

Y Ddaear, neu'r Byd oedd planed yng Nghysawd yr Haul a gartrefodd y rhywogaethau ddoeth frodorol, dyn, (TV: The End of Time) y Silwriaid, (TV: Doctor Who and the Silurians) a Chythreuliaid y Môr. (TV: The Sea Devils) Yn efaill i Fondas, roedd y blaned hon oedd y drydydd blaned wrth ei haul, a felly enwyd hefyd Sol III, yn bennaf gan diwylliannau allfydol. (TV: The Deadly Assassin, The Invasion of Time, Voyage of the Damned) Yn hwrach, cafodd y blaned ei symyd dwy flwyddyn oleuni gan yr Arglwyddi Amser lle adnabuwyd y blaned fel Ravolox. (TV: The Mysterious Planet) Yng nghyfraith rhyngalaethol, cyfeiriwyd at y blaned hefyd fel Planed C-Z-456378-D-C-D-C/42-K. (SAIN: The Doomsday Contract) Mewn un dyfodol posib, yn dilyn anwybyddu cyfrifoldebau amgylcheddol, chwalwyd y blaned i mewn i blaned amddifadol, gydag enw newydd o Orphan 55. (TV: Orphan 55) Roedd gan y Ddaear fersiynnau mewn llinellau amser eraill, ond dyma'r rhai yn unig a ddaw o'r Gwir Ddaear gwreiddiol. (PRÔS: Warlords of Utopia)

Erbyn y 20fed ganrif, cyfeirodd sawl ymgorfforiad o'r Doctor, (TV: Partners in Crime, The Eleventh Hour, Twice Upon a Time) Romana, (TV: City of Death) a Capten Hardaker (TV: Voyage of the Damned) at y Ddaear fel "Planed lefel 5".

Roedd gan y Doctor "ddiddordeb arbennig" yn y blaned, (TV: The War Games) ar ddraws eu ymgorfforiadau. (SAIN: A Thing of Guile) Mae'n bosib tarddiodd rhan o DNA'r Doctor o'r blaned yma. (TV: Doctor Who) Yn wir, dyma tarddiad y rhan fwyaf o'u cymdeithion. Roedd y Doctor yn arbenigwr yn hanes y Ddaear, gan arddangos dealldwriaeth ac adnabyddiaeth am ba bwyntiau yn hanes y Ddaear oedd modd newid, a pha rhai oedd rhaid aros yn sefydlog. (TV: The Fires of Pompeii, The Waters of Mars) Yn ôl y Pedwerydd Doctor, y Ddaear oedd ei "gartref wrth gartref", (SAIN: The Devil's Armada) yn union fel y Doctor Cyntaf; byddai rhywbeth o'r blaned o hyd yn ei galoni. (PRÔS: The Rag & Man's Story) Er honnodd y Deuddegfed Doctor nid ei blaned ef oedd y Ddaear, (TV: Kill the Moon) yn hwyrach, fe gyfaddodd roedd y Ddaear yn blaned ef hefyd. (TV: In the Forest of the Night) Wnaeth y Doctor Rhyfel hyd yn oed cynnal cudeb am ddiwylliant Ddaearol. (SAIN: A Thing of Guile) Erbyn yr 21ain ganrif, roedd y Doctor yn rhan hanfodol o ddiwylliant y Ddaear. (COMIG: The Mark of Terror, ayyb)

Atynnodd sawl ymdrech o oresgyniadau estronaidd yn ystod ei hanes hir. Yn wir, roedd bodolaeth y Ddaear o ganlyniad i rywogaeth arall na tharddiodd yno: gyda'r cramen wedi ffurfio o amgylch naill ai seren we y Racnoss (TV: The Runaway Bride) neu cell ymddal Arglwydd Amser (PRÔS: Interference - Book One) a guddiodd y caldera. (PRÔS: Head of State, A Bloody (And Public) Domaine)

Serch hynny, nid oedd y Ddaear yn blaned parod am wladychu. Am adegau hir yn ei hanes, roedd y Ddaear yn chwaraewr dylanwadol yng ngwleidyddiaeth rhyngalaethol. Yng nghanol ei phwer, y Ddaear oedd canol sawl ymerodraeth a chynghrair, gyda DNA o'r blaned yn cyrraedd bedwar ban y bydysawd. (TV: Frontier in Space, The Monster of Peladon, The End of the World, The Long Game, Utopia, Planet of the Ood) Credwyd mai tarddiad y Gelyn yn Rhyfel y Nefoedd oedd y Ddaear, (PRÔS: Interference - Book Two, T. Memeticus: A Morphology, ayyb) gyda rhai o'r Arglwyddi Amser yn credu ni ddigwyddodd y miloedd o oresgyniadau ar y blaned. (PRÔS: The Ancestor Cell)

Data astronomegol[]

Lleoliad[]

Lleolwyd y Ddaear at y gyfesurynnau galaethol 58044 684884 (TV: The Pirate Planet) yn Sector 8023 o'r Trydydd Cwadrant. (TV: Logopolis) Wrth gael ei ddal mewn coridor amser ar Frontios, dywedodd y Pumed Doctor bod y TARDIS yn cael ei tywys i "ganol y fydysawd" cyn iddo cyrraedd y Ddaear. (TV: Frontios)

O ran drefn Cysawd yr Haul, y Ddaear oedd y trydydd blaned, (TV; The Deadly Assassin, The Invasion of Time, Last of the Time Lords, Voyage of the Damned) yn 149,600,000 cilomedr o'r Haul. (COMIG: The Hyperion Empire) Symudodd y Daleks y Ddaear unwaith i Raeadr Fedwsa, (TV: The Stolen Earth) cyn cael ei thywys nôl i'r lle cywir yn Nghysawd yr Haul gan y TARDIS. (TV: Journey's End) Yn hwyrach, symudwyd y blaned gan ddwy flwyddyn oleuni gan yr Arglwyddi Amser, cyn cael ei hailenwi i "Ravolox" tua'r flwyddyn 2,000,000 OC. Symudwyd nôl i'r leoliad gwreiddiol ar rhyw adeg wedyn. (TV: The Mysterious Planet)

Lleuad(au)[]

Cyn 2049, trwy gydol hanes y Ddaear, roedd wy maint planedyn yn lloeren i'r Ddaear. Roedd gan yr ŵy hwn, wedi'i hadnabod fel y Lleuad, effaith a lanwau'r blaned nes dyfod yn 2049. Ailosododd y creadur y leoren gyda "lleuad newydd" - yr un maint i'r un gwreiddiol - pan ddodwodd wy arall. (TV: Kill the Moon) Erbyn cyfnod Pedwaredd Ymerodraeth Wych a Hael Ddyn, roedd gan y Ddaear pump lleuad. (TV: The Long Game)

Daeareg[]

Roedd y Ddaear yn llawn fetelau ac elfennau gwerthfawr. (PRÔS: Doctor Who and the Day of the Daleks) Roedd yn un o'r unig ffynhonnell o cwarts yn yr alaeth, (TV: The Pirate Planet) ac oedd hefyd yn llawn silicon a charbon. (TV: Four to Doomsday)

Nid oedd y blaned sffêr uniongyrchol, ac o ganlyniad, er mai gwrthdroediaid oedd Sianghai a Buenos Aires, mewn gwirionedd roedd y ddau bach allan o'r pwynt. Rhedodd y Fendith trwy'r Ddaear rhwng y pwyntiau hwnnw. (TV: The Blood Line)

Roedd gan y Ddaear Gramen planedol, ag oedd yn fwy trwchus na chan milltir (TV: The Underwater Menace) wedi'u creu yn bennaf wrth silicon a charbon. (TV: Four to Doomsday) O dan y gramen, credwyd roedd yna graidd "gwynboeth", yn ôl yr Ail Doctor, (TV: The Underwater Menace) mewn gwirionedd, roedd Galon Cyfrinachol yno. (TV: The Runaway Bride)

Atmosffer a disgyrchiant[]

Cynhwysodd atmosffer y Ddaear 80% nitrogen ac 20% ocsigen. (SAINThe Resurrection of Mars) Roedd carbon deuocsid yn hanfodol i atmosffer isaf y Ddaear. (TV: The Ice Warriors) Oherwydd gweithgareddau dyn, roedd gan y Ddaear llawer o tocsinau a diocsinau yn ei hatmosffer, a fyddai'n maethiad perffaith ar gyfer yr Ymwybyddiaeth Nestene. (TV: Rose)

Nododd y Doctor Cyntaf roedd gan y Ddaear atmosffer a disgyrchiant cymharol i Gallifrey. (PRÔSThe Rag & Bone Man's Story)

Nododd y Trydydd Doctor daeth newid yn atmosffer y Ddaear gyda ddyfeisiad y car modur. (TV: Colony in Space) O ganlyniad i'r carbon deuocsid rhyddhaodd y ceir i'r atmosffer, yn achosi llygredd, yn 2009 cafodd y cerbydau eu ffitio gyda dyfeisiau ATMOS i sicrhau na fyddent yn gwasgaru ddim llygredd. Ond, mewn gwirionedd, yn y dyfeisiau oedd fwyd clôn, er mwyn i'r Sontarans troi'r Ddaear i mewn i fyd clonio. Cafodd y difrod ei ddadwneud gan y Degfed Doctor a Luke Rattigan, wrth iddynt ddefnyddio drawsnewydydd atmosffer i lanhau'r atmosffer. (TV: The Sontaran Stratagem, The Poison Sky) Serch hynny, erbyn y 2020au, roedd lefelau carbon yr atmosffer yn rhy uchel unwaith eto, (SAIN: A Postcard from Mr Colchester) a pasiodd lefel llygredd atmosffer y Ddaear o achos i gynhesu byd-eang gwrthlaw i'r lefel difrifol yn gynnar yn y 21ain ganrif (PRÔS: Cat's Cradle: Warhead)

Daearyddiaeth[]

Roedd 70% o arwyneb y Ddaear wedi'i gorchuddio gan ddŵr, (TV: The Fires of Pompeii, The Waters of Mars) a roedd ganddi sawl arwedd daearyddol gan gynnwys fynyddoedd, (TV: "The Roof of the World", The Idiot's Lantern) llosgfynyddoedd, (TV: The Fires of Pompeii, SAIN: Exploration Eath) afonydd, (TV: Doctor Who, Aliens of London / World War Three) anialwch, (SAIN: The Sands of Life, PRÔS: Escape Velocity) capiau iâ, (TV: The Ice Warrors, Terror of the Zygons) a llwyfandiroedd. (PRÔS: Water's Edge, The Devil Goblins from Neptune)

Newidodd arwyneb y Ddaear yn barhaol trwy gydol ei hanes hir, oherwydd ei gweithgareddau seismig niferus. Pan gwelwyd bywyd cyntaf y blaned, er enghraifft, roedd canol Cefnfor yr Iwerydd yn dir diffaith eang creigiog. (TV: City of Death)

Cafodd gweithgareddau dynol, yn enwedig eu llygredd, effaith difrifol ar ddaearyddiaeth y blaned. Bron bu'r Ddaear yn dod yn fôr-fyd yn yr 22ain ganrif cynnar. (SAIN: Kings of Infinite Space) Erbyn y 26ain ganrif, roedd cefnforoedd y Ddaear wedi cael eu llygreddu, ymbelydru, wedi'u tanio, a wedi'u berwi i ffwrdd yn gadael llwtra trwchus. (PRÔS: Ship of Fools) Erbyn yr 52ail ganrif, o ganlyniad i gynhesu byd-eang, nid oedd gaeaf eisioes yn digwydd. (PRÔS: The Frozen) Ond, yng nghyfnod Ail Ymerodraeth Wych a Hael Ddyn, roedd lefelau llygredd y Ddaear yn is nag yn yr 20fed ganrif. (TV: The Daleks' Master Plan)

Dros filiynau o flynyddoedd, achosodd symudiad y cyfandiroedd i arwyneb y Ddaear newid yn gyfan gwbl, gan greu arweddion megis Anialwch yr Arctig, ac Agendor Los Angeles. Darparodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol loerennau ddisgyrchiant i atal ehangiad yr haul, broses a gymerodd biliynau o flynyddoedd, rhag Ddaear a oedd eisio heb fywyd arni. Yn ychwanegol, symudon nhw'r gyfandiroedd nôl i'w lleoliadau cynharach, mewn dyluniad a gafodd ei adnabod fel y "Ddaear Clasurol". Arhosodd y blaned gyda'r edrychiad yma nes ei dinistriad (TV: The End of the World) yn y flwyddyn 5,000,000,000. (TV: New Earth)

Rhywogaethau frodorol ddaellus[]

Esblygodd nifer o rywogaethau ddeallus a hanner-ddeallus ar y Ddaear, ond y rywogaeth y mwyaf ddylanwadol a phwysig oedd dyn a'r ymlusgiaid y Ddaear, wedi'u hadnabod fel Silwriaid. (PRÔS: Love and War, TV: Cold Blood)

Cynhwysodd rhywogaethau frodorol ddaeallus eraill y Ddaear y Tylwyth Teg (TV: Small Worlds), Sidhe (PRÔS: Autumn Mist), y dolffiniaid (PRÔS: Island of Death), y Carpanthans (COMIG: The Fishmen of Carpantha), y Môr-bobl (COMIG: Guests of King Neptune, SAIN: Cryptobiosis), y Tuskens (PRÔS: Mad Dogs and Englishmen) a'r Erithians. (SAIN: The Caves of Erith)

Planhigion ac anifeiliaid[]

Yn ystod ei hanes hir, esblygodd sawl rhywogaethau ar y Ddaear. Erbyn yr 21ain ganrif, roedd dros tri chant biliwn o rhywogaethau o anifeiliaid wedi esblygu a marw yn barod. (PRÔS: The Last Dodo)

Yn ôl y Pedwerydd Doctor, y Ddaear oedd yr unig planed yn ei galaeth lle tyfodd derw. (TV: The Android Invasion) Ceisiodd botanegwyr planu hadau derw ar blanedau wladfa eraill, ond pob amser bydden nhw'n marw. (SAIN: The Unknown)

Daeth cyndeidiau'r Coed Cheem, rhywogaeth o goed dynolffurf, o fforestydd law trofannol y Ddaear. (TV: The End of the World)

Pwysigrwydd hanesol[]

Hanes cynnar[]

Cyn bywyd[]

Yn ôl Ymerodres y Racnoss, roedd Canol y Ddaear yn llong Racnoss cysgedig, o'r enw y Secret Heart, gyda'r Ddaear wedi ffurfio o'i gwmpas (TV: The Runaway Bride)

Yn dilyn Rhyfel Tragwyddol Rassilon yn erbyn yr Yssgaroth, (PRÔS: The Pit, TV: State of Decay) wnaeth yr Arglwyddi Amser, yn ôl adroddiad mae'n bosib cafodd ei newid gan Faction Paradox, lleoli pob ddrws i fydysawd Yssgaroth i'w cau trwy eu cuddio o fewn planedau, (PRÔS: Interference - Book One, The Book of the War) gyda Llyfr y Rhyfel yn honni mai'r Ddaear yn un o'r planedau. (PRÔS: The Book of the War)

Dynododd un adroddiad bod yr Ymwybyddiaeth yn bodoli fel agendor yn y bydysawd, gyda'r Ddaear wedi ffurfio o'i gwmpas, yn ei dal, (PRÔS: Nightshade) tra yn ôl adroddiad arall, ffurfiodd y Ddaear tua 4.6 biliwn flwyddyn CC o gwmpas Llong ofod Racnoss a gynhwysodd olion y rhywogaeth hynafol. Daenodd y llong asteroidau lleol, gan ei ddefnyddio i ffurfio planed. (TV: The Runaway Bride)

Yn fuan wedyn, cyrhaeddodd yr Unarddegfed Doctor ar Ddydd Mawrth, yn ôl ef, "rhyw 6 biliwn mlynedd yn ôl". Yr adeg honno, roedd y Ddaear yn boeth ac yn losgfalaidd. (TV: Hide) Tua 3 biliwn CC, cyrhaeddodd ymwybyddiaeth Sou(ou)shi'r Ddaear cyn mynd i gysgu. (PRÔS: Venusian Lullaby)

Creadigaeth bywyd[]

I'w hychwanegu.

Bywyd tirol cyntaf[]

I'w hychwanegu.

Deinosorod, Silwriaid a Chythreuliaid y Môr[]

I'w hychwanegu.

Oed dynoliaeth[]

Tarddiad gwareiddiad dyn[]

I'w hychwanegu.

20fed a 21ain ganrifoedd[]

I'w hychwanegu.

Dynoliaeth yn teithio'r sêr[]

I'w hychwanegu.

Goresgyniad y Dalek yn yr 22ain ganrif[]

I'w hychwanegu.

Canlyniadau ar ôl y Ddaear[]

I'w hychwanegu.

Ymerodraethau'r Ddaear[]

I'w hychwanegu.

Digwyddiadau hwyrach[]

I'w hychwanegu.

Dinistriad y Ddaear[]

I'w hychwanegu.

Llinellau amser eiledol[]

I'w hychwanegu.

Diwylliant[]

I'w hychwanegu.

Crefyddau[]

I'w hychwanegu.

Gwleidyddiaeth[]

I'w hychwanegu.

Economi[]

I'w hychwanegu.

Safle yn y bydysawd[]

I'w hychwanegu.

Bydysodau Paralel[]

I'w hychwanegu.

Yn y cefn[]

I'w hychwanegu.

Dolenni allanol[]

I'w hychwanegu.

Advertisement