Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who

Y Gofod oedd gair a gyfeiriodd at ddau syniad y bydysawd. Cyfeiriodd un at ddimensiynnau: gyda gofod yn cael ei ddisgrifio fel y pumed dimensiwn gan Susan, (TV: "An Unearthly Child") ond ystyriodd y Doctor Cyntaf y gofod ac amser i fod yr un dimwensiwn. (SAIN: The Cold Equation) Diffiniwyd y llall fel gwactod y bydysawd tu allan atmosffêr corff planedol. (TV: Oxygen)

Yn ôl y Deuddegfed Doctor, roedd y gofod yn grom, felly roedd y Ddaear ym mha bynnag cyfeiriad dewisodd rhywun i edrych ato. (TV: Smile)

Yn aml, ychwanegwyd y gair at eiriau eraill i ddynodi allfydolrwydd. Er mynnodd y Deuddegfed Doctor nad oedd pobl yn ychwanegu y gair at bethau fel bwyty, siampên na het i wneud termau fel Bwyty gofodol, hawliodd Clara Oswald y termau siwt ofod a môr-leidr y gofod fel esiamplau i'r gwrthwyneb. (TV: Sleep No More)

Honnodd y Deuddegfed Doctor nad oedd planedau yn rhan o'r gofod allanol, gan ddweud roedd ef blaned penodol, Galiffrei, yn lle dod "o'r gofod". Dadlodd ef daw'r mwyafrif o bobl wrth blaned yn lle gwactod y gofod. (TV: The Pilot)

Ffiseg y gofod[]

Roedd y gofod yn dwymach na -271.3°C. (TV: Extremis) Nid oedd ynryw wasgedd yn y gofod, na, wrth gwrs, ocsigen. (TV: Oxygen; SAIN: The Cold Equations) Nid oedd llawer o ddisgyrchiant chwaith. (TV: Underworld, The Beast Below, ayyb)

Arnoethiad i'r gwactod[]

Prif erthygl: Gwactod

Nid oedd modd i'r rhan fwyaf o ffurfiau bywyd oroesi yng ngwactod y gofod am amser heb siwt ofod, a chyflenwad ocsigen safonol, ymysg angenrheidiau eraill. (TV: The Moonbase, Oxygen; SAIN: The Cold Equations)

Yn ôl y Deuddegfed Doctor, gan nad oedd unryw wasgedd mewn gwactod, byddai ysgyfaint rhywun yn ffrwydro os geision nhw dal eu hanadl. Byddai'r gwaedlestri yn torri, a byddai ardaloedd y corff ag oedd ar agor i'r gwactod yn chwyddo. Roedd pwynt berwi Dŵr llawer is mewn gwactod, ac felly byddai chwys, poer a'r hylif ar lygaid pobl yn berwi.

O fewn 15 eiliad, byddai person mewn gwactod yn colli ymwybyddiaeth wrth i swigod ocsigen ffurfio yn eu gwaed. O fewn 90 eiliad byddent wedi marw. (TV: Ocsigen) Honnodd y Pedwerydd Doctor os ni geisiodd rhywun dal eu hanadl, byddai modd oroesi gwactod y gofod, heb effeithiau hir-dymor, am o leiaf 30 eiliad. (SAIN: The Perfect Prisoners)

Tra roedd modd i Arglwyddi Amser aros yn fyw mewn gwactod am amser hirach na ddynoliaeth, (TV: Four to Doomsday, The Doctor, the Widow and the Wardrobe; GÊM: TARDIS) byddai arnoethiad estyniedig yn arwain at effeithiau difrifol. Er oroesodd, achosodd arnoethiad hir i wactod er mwyn achub ei ffrind Bill i'r Deuddegfed Doctor mynd yn ddall. (TV: Oxygen)

Roedd modd i sawl rhywogaeth oroesi gwactod y gofod heb unryw effeithiau negyddol, megis y Rutan, (PRÔS: Shakedown) y Pting (TV: The Tsuranga Conundrum) a'r Morfil sêr. (TV: The Beast Below) Roedd eraill, fel codau'r Krynoid, yn gaeafgysgu yn ystod eu teithiau trwy'r gofod. Roedd modd i'r Wirrn byw a theithio trwy'r gofod. Roedd modd iddynt fyd heb ocsigen newydd am flynyddoedd, ond roedd eu nythoedd wedi'u lleoli ar dir. (TV: The Ark in Space)